Bathodyn y Crwydriaid a'r llong yn hwylio i'r rownd nesa (o wefan y clwb)
Mae ail glwb o Gymru wedi cyrraedd rownd nesa’ cystadleuaeth Ewropeaidd, wrth i Grwydriaid Cei Conna curo Stabaek o Norwy o 1-0 oddi cartre’.

Ar ôl cael gêm gyfartal yng Nghymru’r wythnos ddiwetha’, fe lwyddodd y Crwydriaid i ennill twy gôl ar ôl chwarter awr gan Callum Morris.

Hon yw ymgyrch gynta’r tîm o Sir y Fflint mewn cystadleuaeth Ewropeaidd ac maen nhw wedi codi o waelodion Uwchgynghrair Cymru yn ystod y tymhorau diwetha’.

Fe fyddan nhw bellach yn wynebu clwb FK Vojvodia o Serbia yn ail rownd gymhwyso Cwpan Ewropa, gan chwarae’r gêm gartre’ unwaith eto ar faes Y Rhyl.

Mae clwb y Seintiau newydd hefyd wedi llwyddo i fynd trwodd i ail rownd gymhwyso Cwpan y Pencampwyr ar ôl ennill o 5-1 tros ddwy gêm yn erbn Tre Penne o San Marino.