Mae’r Cymro Cymraeg Owen Morgan wedi’i gynnwys yng ngharfan griced Morgannwg am y tro cyntaf erioed, wrth iddyn nhw deithio i Hove i wynebu Swydd Sussex yn ail adran y Bencampwriaeth ddydd Sadwrn.

Mae’r troellwr llaw chwith 22 oed, gynt o Ysgol Gyfun y Strade yn Llanelli, wedi creu argraff yn yr ail dîm ac wrth chwarae i Bontarddulais yn Uwch Gynghrair Cymru.

Chwaraeodd Morgan mewn gêm dosbarth cyntaf am y tro cyntaf yn 2014, wrth iddo gynrychioli tîm Prifysgolion Caerdydd yr MCC, ond mae e wedi bod yn berfformiwr cyson yn nhîm Siroedd Llai Cymru ers 2012.

Hefyd yn cael cyfle mae Nick Selman a Jack Murphy, sydd hefyd yn chwarae i Brifysgolion Caerdydd yr MCC.

Does dim lle yn y garfan i Colin Ingram, sy’n aros am driniaeth ar ei ben-glin ac sydd ond yn chwarae mewn gemau undydd yn y cyfamser, na chwaith i Chris Cooke, Andrew Salter na Dean Cosker.

Carfan Morgannwg: J Rudolph (capten), M Wallace, N Selman, W Bragg, A Donald, D Lloyd, G Wagg, J Murphy, C Meschede, M Hogan, T van der Gugten, O Morgan