Mae’r bowlwyr cyflym Dale Steyn a Timm van der Gugten wedi’u cynnwys yng ngharfan Morgannwg ar gyfer ymweliad Swydd Gaint â Chaerdydd yng nghystadleuaeth ugain pelawd y T20 Blast nos Wener.
Mae’r troellwyr Dean Cosker ac Andrew Salter hefyd wedi’u cynnwys, ac mae’r troellwr llaw chwith Cosker ddwy wiced yn brin o 100 wiced yn ei yrfa yn y T20 Blast.
Hon fydd gêm olaf ond un Steyn yng nghrys Morgannwg cyn iddo fynd i’r Caribî ar gyfer cystadleuaeth y CPL.
Ar drothwy’r ornest, dywedodd capten Morgannwg Jacques Rudolph: “Bydd ein tîm yn hyderus iawn ar gyfer nos Wener. Am y rhan fwyaf o’r gemau pelen wen hyn, mae ein batwyr wedi bod yn taro’r bêl yn dda ac fe fydd yn wych cael Dale yn ôl ar gyfer y T20.
“Roedd hi’n braf gweld torf dda [yn y gêm T20 yn erbyn Swydd Hampshire] a gobeithio y gwelwn ni’r un peth eto nos Wener.”
Ystadegau
Un fuddugoliaeth ac un gêm gyfartal gafodd Morgannwg yn eu dwy gêm diwethaf yn y T20 yn erbyn Swyd Gaint.
Ond dydy’r ymwelwyr erioed wedi colli gêm T20 yng Nghymru.
Carfan Morgannwg: J Rudolph (capten), D Lloyd, C Ingram, A Donald, C Cooke, G Wagg, C Meschede, D Steyn, T van der Gugten, D Cosker, M Hogan, A Salter, M Wallace
Carfan Swydd Gaint: S Northeast (capten), J Denly, D Bell-Drummond, T Latham, S Billings, D Stevens, A Blake, F Cowdrey, M Coles, J Tredwell, M Claydon, D Griffiths, I Thomas