Timm van der Gutgen (Llun Clwb Criced Morgannwg)
Fe lwyddodd Morgannwg i ennill eu gêm gynta’ eleni gyda buddugoliaeth gyfforddus tros Swydd Surrey yn yr Oval yn y gystadleuaeth Ugain20.

Yr arwr oedd y bowliwr o’r Iseldiroedd, Timm van der Gutgen, a gipiodd bedair wiced am ddim ond 14 o rediadau – y trydydd perfformiad gorau yn hanes y sir yn y gystadleuaeth.

Fe gafodd Swydd Surrey eu bowlio am ddim ond 93, eu perfformiad gwaetha’ nhwthau.

Fe gymerodd lai nag 13 pelawd i Forgannwg gyrraedd y targed, gan golli dim ond dwy wiced.

Adroddiad llawn a rhagor o ymateb