Ched Evans adeg achos llys cynharach (Llun: PA)
Fe fydd y chwaraewr pêl-droed, Ched Evans, yn cael gwybod heddiw pryd y bydd y gwrandawiad newydd yn yr achos treisio yn ei erbyn.

Y disgwyl yw y bydd y Barnwr Uchel Lys, Ustus Nicola Davies, yn cyhoeddi’r dyddiad yn Llys y Goron yr Wyddgrug, a hynny tros gyswllt fideo o Lys y Goron Caerdydd.

Mae’r blaenwr 27 oed o Lanelwy yn rhydd ar hyn o bryd ar ôl cael ei ryddhau o’r carchar ym mis Hydref 2014 ar ôl treulio hanner ei ddedfryd o bum mlynedd dan glo.

Y cefndir

Fe gafodd Ched Evans yr hawl i ail wrandawiad ar ôl i’r Comisiwn Adolygu Achosion Troseddol anfon ei achos i’r Llys Apêl.

Ym mis Ebrill eleni – union bedair blynedd wedi’r dyfarniad gwreiddiol – fe benderfynodd hwnnw ddileu’r ddedfryd wedi i gyfreithwyr y chwaraewr pêl-droed gyflwyno tystiolaeth newydd.

Roedd wedi gwadu’r cyhuddiad o dreisio o’r dechrau wedi digwyddiad mewn gwesty yn ardal Y Rhyl.

Chwarae i Gymru  

Dyw Ched Evans ddim wedi chwarae pêl-droed ers cael ei gyhuddo ac fe fu protestiadau mawr ar y cyfryngau cymdeithasol pan geisiodd rhai clybiau ei arwyddo.

Mae wedi chwarae 13 o weithiau i Gymru ac fe fyddai wedi disgwyl bod yn y sgwad cenedlaethol ar gyfer cystadleuaeth Ewro 2016 eleni.