Mae Colin Ingram a Dean Cosker yn dychwelyd i garfan Morgannwg ar gyfer eu taith i’r Oval i herio Swydd Surrey yn y T20 Blast nos Iau (6.30).

Ond mae amheuon o hyd am ffitrwydd y batiwr llaw chwith Ingram ar ôl iddo awgrymu ei fod wedi gohirio llawdriniaeth ar ei benglin tan ddiwedd y tymor er mwyn cymryd ei le yn y garfan.

Mae’r bowliwr cyflym o Wrecsam, Dewi Penrhyn Jones yn ymddangos yng nghrys Morgannwg am y tro cyntaf eleni, ac mae lle hefyd i’r batiwr ifanc o Abertawe, Aneurin Donald ar ôl iddo daro hanner canred yn y Bencampwriaeth yn erbyn Swydd Essex ddechrau’r wythnos.

Mae capten Morgannwg, Jacques Rudolph wedi croesawu’r cyfle i droi sylw’r tîm oddi ar eu canlyniadau siomedig yn y Bencampwriaeth hyd yma.

Dywedodd: “Mae’n dod ag egni newydd, fe gawson ni ymarfer da yn y rhwydi ar gyfer y T20 y diwrnod o’r blaen ac fe allwch chi weld bod tipyn mwy o wefr yn ein hystafell newid felly fe fydd yn cynnig toriad bach i’r bois.

Wrth gyfeirio at ei gydwladwr Colin Ingram yn dychwelyd i’r garfan, ychwanegodd Rudolph: “Mae Colin yn teimlo’n gyffrous i fod nôl yn y rhwydi unwaith eto a chael chwarae.

“Mae e’n chwaraewr profiadol ac fe fydd yn braf cael ei egni’n ôl yn yr ystafell newid.”

Dydy’r bowliwr cyflym o Dde Affrica, Dale Steyn ddim ar gael o hyd oherwydd ei ymrwymiad i dîm Gujarat yn yr IPL yn India, ond mae Rudolph yn edrych ymlaen at groesawu un arall o’i gydwladwyr i Gymru.

“Mae Dale yn ffrind da i fi ac ry’n ni wedi chwarae gyda’n gilydd ac yn erbyn ein gilydd ers sawl blwyddyn.

“Mae e’n foi gwych i’w gael yn yr ystafell newid, mae e’n eithaf egnïol ac rwy’n credu y bydd y newid fformat yn beth da i ni, felly dwi’n teimlo’n gyffrous am y cyfan.”

Carfan 14 dyn Swydd Surrey: G Batty (capten), Z Ansari, J Burke, S Curran, T Curran, S Davies, B Foakes, Azhar Mahmood, S Meaker, M Pillans, J Roy, K Sangakkara, D Sibley, G Wilson.

Carfan 13 dyn Morgannwg: J Rudolph (capten), M Wallace, C Cooke, C Ingram, A Donald, D Lloyd, G Wagg, C Meschede, D Cosker, A Salter, D Penrhyn Jones, T van der Gugten, M Hogan