Mae Morgannwg yn dal heb fuddugoliaeth yn ail adran y Bencampwriaeth wrth iddyn nhw groesawu Swydd Essex i Gaerdydd ddydd Sul.

Does dim newidiadau yng ngharfan Morgannwg i’r un a gafodd ei threchu gan Swydd Gaerloyw ym Mryste yr wythnos diwethaf.

Dywedodd chwaraewr amryddawn ifanc Morgannwg, David Lloyd, a darodd 99 yn erbyn Swydd Gaerloyw yn dilyn canred yn erbyn Swydd Gaint: “Mae Swydd Essex wedi cael dechrau gwych i’r tymor ac yn anffodus, i’r gwrthwyneb fuodd hi i ni.

“Ry’n ni’n edrych ar eu tîm nhw ac mae ganddyn nhw chwaraewyr da iawn, ond ry’n ni’n credu bod gynnon ni dalent yn ein tîm ni hefyd.

Swydd Essex sydd ar frig yr ail adran ar hyn o bryd, ond fe fyddan nhw’n teithio i Gaerdydd heb eu batiwr agoriadol Nick Browne, oedd wedi anafu ei goes wrth iddo daro 255 yn erbyn Swydd Derby.

Mae disgwyl i Ashar Zaidi a Matt Quinn ymddangos yng nghrys yr ymwelwyr am y tro cyntaf.

Carfan Morgannwg: J Rudolph (capten), W Bragg, C Cooke, A Donald, M Hogan, D Lloyd, C Meschede, H Podmore, A Salter, T van der Gugten, G Wagg, M Wallace

Carfan Swydd Essex: R ten Doeschate (capten),  J Mickleburgh, J Ryder, T Westley, R Bopara, D Lawrence, J Foster, G Napier, Ashar Zaidi, A Beard, M Quinn, J Porter