Tarodd y chwaraewr amryddawn ifanc o Lanelwy, David Lloyd ei ganred cyntaf erioed yn y Bencampwriaeth i Forgannwg ar drydydd diwrnod eu gêm yn erbyn Swydd Gaint yng Nghaergaint.
Sgoriodd Lloyd 107 wrth iddo adeiladu partneriaeth o 215 am y chweched wiced gyda Graham Wagg (106).
Roedd Morgannwg yn 156-5 pan ddechreuodd y bartneriaeth, ond fe lwyddodd y Cymry i gyrraedd 414 erbyn diwedd eu hail fatiad i osod nod o 187 i’r Saeson ar gyfer y fuddugoliaeth.
Dywedodd David Lloyd: “Mae’n braf cael fy nghanred cyntaf yn y Bencampwriaeth, roedd yn deimlad anhygoel i groesi’r llinell.
“A diolch i Waggy oedd wedi fy helpu i gario mlaen.”
Tarodd Wagg yntau ei ganred cynta’r tymor hwn, ac fe ddywedodd: “Fe ddywedon ni’n dau pe baen ni’n gallu adeiladu partneriaeth yna fe allen ni wyrdroi pethau o bosib.
Erbyn diwedd y trydydd diwrnod, roedd Swydd Gaint wedi cyrraedd 22-0, ac mae angen 167 ychwanegol arnyn nhw i ennill ar y diwrnod olaf ddydd Mercher.