Does dim un chwaraewr canol cae wedi sgorio mwy o goliau yn hanes clwb pel-droed Caerlyr nag Andy King (llun:Nick Potts/PA)
Ryan Giggs, Mark Hughes, Clayton Blackmore – ac fe gewch chi nawr ychwanegu Andy King at y rhestr honno, fel y pedwerydd Cymro i ennill Uwch Gynghrair Lloegr.
Do, fe ddaeth y stori dylwyth deg yn wir oddeutu toc cyn 10.00yh nos Lun, wrth i Spurs fethu â threchu Chelsea gan olygu mai Caerlŷr, yn swyddogol, yw pencampwyr y gynghrair.
Mae King wedi bod gyda’r clwb ers eu dyddiau yng Nghynghrair Un, a’r tymor yma mae wedi chwarae 23 o weithiau yn y gynghrair wrth i’r tîm oedd yn ffefrynnau i fynd i lawr gwblhau un o’r gorchestion mwyaf syfrdanol a welodd y byd chwaraeon erioed.
Wrth gwrs, am bob un sy’n ennill mae rhywun yn colli, ac roedd gêm gyfartal Spurs yn golygu bod Ben Davies, a ddaeth ymlaen fel eilydd hwyr, wedi methu’i gyfle i gael gafael ar fedal enillydd y gynghrair.
Roedd gêm gyfartal Caerlŷr yn erbyn Man United gynharach yn y penwythnos hefyd wedi cadarnhau’n fathemategol na fyddai Aaron Ramsey, gafodd gêm lawn wrth i Arsenal drechu Norwich 1-0, yn gallu cyrraedd y brig.
Yng ngemau eraill y gynghrair, fe chwaraeodd Ashley Williams a Neil Taylor gemau llawn wrth i Abertawe drechu Lerpwl, oedd â Danny Ward yn y gôl ond Joe Allen wedi’i orffwys, o 3-1.
Y golwr Karl Darlow – sydd yn gymwys i chwarae dros Gymru – oedd yr arwr i Newcastle, gan arbed cic o’r smotyn er mwyn sicrhau buddugoliaeth i’w dîm o a Paul Dummett yn erbyn Crystal Palace, oedd â Wayne Hennessey yn dechrau ond Joe Ledley ar y fainc.
Gwylio o’r fainc oedd James Chester a James Collins hefyd wrth i West Brom golli 3-0 gartref i West Ham, ac roedd Rhoys Wiggins ymysg eilyddion Bournemouth wrth i Everton eu trechu o 2-1.
A draw yn Sbaen mae gobeithion Real Madrid o ennill La Liga dal yn fyw, ar ôl i Gareth Bale benio gôl hwyr er mwyn trechu Real Sociedad o 1-0.
Y Bencampwriaeth
Nid Andy King oedd yr unig Gymro i fod yn dathlu’r penwythnos yma chwaith, a hynny ar ôl i Burnley hefyd sicrhau dyrchafiad sydd werth o leiaf £100m i’r Uwch Gynghrair diolch i Sam Vokes.
Peniodd Vokes unig gôl y gêm er mwyn sicrhau buddugoliaeth yn erbyn QPR, gan olygu nad oes posib i Brighton a Middlesbrough eu dal ar frig y Bencampwriaeth gan fod y ddau dîm yn chwarae’i gilydd ar y diwrnod olaf.
Ond daeth gobeithion Caerdydd o gyrraedd y gemau ail gyfle i ben ar ôl colli o 3-0 yn Sheffield Wednesday, gyda Tom Lawrence yn cael ei gadw ar y fainc.
Yng ngemau eraill y gynghrair fe chwaraeodd Emyr Huws, Joel Lynch, Joe Walsh, Morgan Fox, Dave Edwards a Chris Gunter 90 munud i’w clybiau, ac fe gafodd Jazz Richards hanner gêm.
Eilydd yn unig oedd Adam Henley fodd bynnag ac mae Adam Matthews, David Vaughan a Hal Robson-Kanu yn parhau i fod allan ag anafiadau, er bod Robson-Kanu bellach nôl yn ymarfer.
Yng Nghynghrair Un fe sgoriodd Tom Bradshaw gôl hyfryd i Walsall yn eu buddugoliaeth o 3-1 yn erbyn Fleetwood, sydd yn cadw’u gobeithion nhw o ddyrchafiad awtomatig yn fyw.
Ac yn Uwch Gynghrair yr Alban roedd Owain Fôn Williams rhwng y pyst wrth i Inverness drechu Partick Thistle o 4-1.
Dim ond un penwythnos o bêl-droed ar ôl felly nes i Chris Coleman enwi carfan Cymru fydd yn mynd i Ewro 2016 – ac fe fyddwn ni yma ar Cip ar y Cymry yn croesi’n bysedd nad oes unrhyw anafiadau hwyr cyn hynny.
Sêr yr wythnos – Andy King a Sam Vokes. Penwythnos arbennig i’r ddau, a byddai’n annheg dewis rhyngddynt.
Siom yr wythnos – Ben Davies. Ei dîm wedi ildio dwy gôl yn yr ail hanner i ildio’r gynghrair i Gaerlŷr.