Daeth tywydd garw i roi terfyn ar ornest griced gyffrous rhwng Swydd Derby a Morgannwg yn Derby ddydd Mercher.

Roedd posibilrwydd ar ddechrau’r pedwerydd diwrnod y gallai’r naill sir neu’r llall fod wedi ennill y gêm, ond doedd hi ddim yn bosib chwarae ar ôl storm yn ystod y prynhawn ac felly roedd gêm gyfartal yn anochel o fewn dim o dro.

Roedd Morgannwg yn 87-2 pan ddaeth y glaw, oedd yn golygu bod ganddyn nhw fantais o 119.

Crynodeb

Ar ôl cynnal y dafl a galw’n gywir, penderfynodd Morgannwg fatio’n gyntaf ac roedd y penderfyniad i’w weld yn un cywir ar ôl i Will Bragg daro 129, ei gyfanswm dosbarth cyntaf gorau erioed, i helpu Morgannwg i gyrraedd cyfanswm o 377 i gyd allan.

Dim ond Aneurin Donald (45) a Chris Cooke (40) wnaeth gyfrannu’n helaeth fel arall, wrth i’r bowliwr cyflym Tony Palladino gipio pum wiced am 83.

Sicrhaodd y capten Wayne Madsen (97) a Ben Slater (62) fod y Saeson yn aros o fewn cyrraedd y Cymry wrth iddyn nhw gael eu bowlio allan am 345, ar ôl bod ar ei hôl hi o 46 o rediadau ar ddechrau’r diwrnod olaf.

Mantais o 32 oedd gan y Cymry erbyn i fatiad Swydd Derby ddod i ben ar 345.

Dim ond 32 o belawdau oedd yn bosib yn ail fatiad Morgannwg, ac fe ddaeth yr ornest i ben ganol y prynhawn olaf, a’r Cymry wedi cyrraedd 87-2.

‘Trueni’

Ar ddiwedd yr ornest, dywedodd bowliwr cyflym Morgannwg, Michael Hogan ei bod hi’n dreuni bod y tywydd wedi atal diweddglo cyffrous i’r ornest.

“Mae’n drueni gan fod y tywydd wedi difetha gêm dda o griced.

“Pe baen ni wedi cael pedwar diwrnod llawn i chwarae, byddai hi wedi bod yn gêm braf iawn.”

Bydd y siom yn waeth fyth i Forgannwg ar ôl iddyn nhw ddweud yr wythnos hon eu bod nhw am geisio gwneud yn iawn am grasfa yn erbyn Swydd Gaerlŷr yr wythnos diwethaf.

Ychwanegodd Hogan: “O ystyried ein perfformiad yr wythnos diwethaf, roedd gyda ni ambell beth i’w wneud a phrofi mai damwain oedd hynny, ac roedden nhw fwy na thebyg yn meddwl y gallen nhw fod wedi ein curo ni’n hawdd.

“Felly fe wnaethon ni drin y peth fel ffordd o waredu ambell ddiafol.”