Ymchwiliad ar y gweill i sylwadau Shane Sutton
Mae cyfarwyddwr technegol tîm seiclo Prydain, Shane Sutton wedi ymddiswyddo yn dilyn ffrae wedi iddo wneud sylwadau sarhaus am aelodau benywaidd y tîm ac am bara-seiclwyr.
Mewn datganiad, dywedodd Sutton fod yr honiadau’n “tynnu sylw” oddi ar baratoadau’r tîm ar gyfer y Gemau Olympaidd a Pharalympaidd sy’n dechrau yn Rio de Janeiro ymhen 100 niwrnod.
Dywedodd ei fod yn rhoi’r gorau i’w swydd “er lles Seiclo Prydain”.
Ychwanegodd y byddai’n cydymffurfio’n llawn ag ymchwiliad i’r honiadau, ond mae’n gwadu ei fod e wedi gwneud unrhyw beth o’i le.
Bydd Andy Harrison yn ei olynu.
Honiadau
Mae’r seiclwraig Jess Varnish wedi cyhuddo Shane Sutton o ragfarn ar sail rhyw, gan honni ei fod wedi dweud wrthi am “fynd i gael babi” ar ôl i’w chytundeb â’r sefydliad ddod i ben.
Yn dilyn hynny, daeth adroddiad damniol yn y Daily Mail yn ei gyhuddo o wneud sylwadau sarhaus am seiclwyr Paralympaidd.
Dywedodd datganiad gan Beicio Prydain fod Shane Sutton wedi’i “wahardd wrth i ymchwiliad mewnol i honiadau o wahaniaethu a wnaed yn y wasg” gael ei gynnal.
Dywedodd Sutton wrth bapur newydd y Times, ei fod “gant y cant” heb ddweud wrthi am “fynd i gael babi.”
“Doedd dim siarad am fabis. Dwi ddim yn gwybod o le ddaeth hwnna,” meddai.
Ychwanegodd ei fod yn “croesawu’r cyfle” i roi ei safbwynt, gan nad yw’n credu ei fod wedi “cael ei glywed o’r cychwyn cyntaf.”
Digwyddodd cyfweliad y Times cyn i honiadau pellach gael eu gwneud gan y seiclwr Paralympaidd llwyddiannus, Darren Kenny, a ddywedodd yn y Mail, fod “yr agwedd tuag at (aelodau o’r tîm Paralympaidd) yn ofnadwy”.
“Roeddem yn cael ein goddef ar y gorau. Y term oedd yn cael ei ddefnyddio i gyfeirio atom oedd “gimps” yn gyffredinol, gyda gair arall o flaen hwnnw.”
‘Rhagfarn yn bodoli’
Mae’r cyn-seiclwraig, Victoria Pendleton, un o’r goreuon ym myd seiclo Prydain, oedd yn bartner sbrint i Jess Varnish yn y Gemau Olympaidd yn Llundain yn 2012, wedi cefnogi ei honiadau.
Dywedodd wrth y Daily Telegraph fod rhagfarn ar sail rhyw yn bodoli yn y sefydliad a bod ei phrofiadau yn “debyg iawn”.
“Dwi’n gwybod mor ddigalon oedden nhw’n gwneud i fi deimlo.”
Dywedodd Shane Sutton ei fod wedi cael ei “frifo” gan sylwadau Victoria Pendleton.