Will Bragg: Pumed canred dosbarth cyntaf ei yrfa
Sgoriodd batiwr agoriadol Morgannwg, Will Bragg 129 ar ddiwrnod cynta’r ornest Bencampwriaeth oddi cartref yn erbyn Swydd Derby ddydd Sul.

Hwn oedd ei bumed canred dosbarth cyntaf erioed, ac roedd yn gymorth i’r Cymry wrth iddyn nhw gyrraedd 308-6 ar ddiwedd y dydd ar ôl galw’n gywir a dewis batio’n gyntaf.

Roedd batiad Bragg yn cynnwys 15 pedwar oddi ar 217 o belenni.

Roedd cyfraniadau gwerthfawr hefyd gan Aneurin Donald (45) a’r wicedwr Chris Cooke (40), sydd wedi disodli Mark Wallace ar gyfer yr ornest hon.

Ond diwrnod i’r bowlwyr oedd hi fel arall, wrth i Tony Palladino gipio tair wiced am 62 ac roedd dwy wiced mewn dwy belen i Andy Carter, a dreuliodd gyfnodau ar fenthyg gyda Morgannwg y llynedd.

‘Siomedig’

Er gwaetha’r canred, cyfaddefodd Will Bragg ei fod yn siomedig wrth iddo golli ei wiced, pan wnaeth Will Durston ddarganfod ei goes o flaen y wiced.

“Ro’n i ychydig yn siomedig gyda’r amgylchiadau wrth i fi fynd allan tua’r diwedd ac rwy’n credu bod yr ornest yn y fantol ar hyn o bryd.

“Mae angen oddeutu cant o rediadau arnon ni eto i fod ychydig yn fwy cystadleuol.

“Dw i’n hapus ar y cyfan, fe allai fod wedi bod yn well ac ni ddylai’r belen ges i i fynd allan fod wedi fy nghael i allan pan o’n i ar 129.

“Efallai mai diffyg canolbwyntio oedd e ac ro’n i’n siomedig yn y pen draw.”