Mae gornest gynta’r tymor criced dosbarth cyntaf rhwng Morgannwg a Phrifysgolion Caerdydd yr MCC yn y Swalec SSE wedi gorffen yn gyfartal.
Doedd dim criced ar y diwrnod cyntaf oherwydd y glaw ond ar ddechrau’r ail ddiwrnod, galwodd Morgannwg yn gywir a phenderfynu batio’n gyntaf.
Roedd yn benderfyniad a dalodd ar ei ganfed wrth i Forgannwg sgorio 533-7 yn eu batiad cyntaf, wrth i Aneurin Donald (105) a David Lloyd (105) ill dau daro canred dosbarth cyntaf yr un am y tro cyntaf erioed yn eu gyrfa.
Tua diwedd y batiad, tarodd Craig Meschede – sydd wedi symud i Forgannwg yn barhaol – 60 heb fod allan, tra ei fod e wedi’i gefnogi gan y wicedwr Mark Wallace (58*), sydd wedi ymestyn ei gytundeb gyda’r sir yr wythnos hon .
Pan ddaeth tro’r myfyrwyr i fatio ar y diwrnod olaf, llwyddon nhw i beri rhwystredigaeth i’w gwrthwynebwyr, wrth i un o’u chwaraewyr sydd hefyd yn aelod o garfan Morgannwg, Jeremy Lawlor daro 77. Ac fe gafodd Neil Scriven 67 heb fod allan wrth iddyn nhw gyrraedd 166-1 cyn i’r ornest ddod i ben yn gyfartal.