Mae adroddiadau bod Ryan Reynolds a Rob McElhenney yn awyddus i fuddsoddi yn nhîm criced dinesig y Tân Cymreig.

Mae’r actorion Hollywood eisoes wedi creu tipyn o argraff ar y byd pêl-droed, gyda Wrecsam wedi ennill dau ddyrchafiad ers iddyn nhw brynu’r clwb.

Y Tân Cymreig yw tîm dinesig Caerdydd sy’n cystadlu yn y Can Pelen, ochr yn ochr â saith tîm o Loegr, ac maen nhw’n chwarae yng Ngerddi Sophia, sef cartref Clwb Criced Morgannwg yn y brifddinas.

Mae Morgannwg yn berchen ar 51% o gyfrannau’r Tân Cymreig, ac maen nhw wedi cadarnhau bod yr actorion yn awyddus i brynu cyfrannau hefyd, medd BBC Cymru.

Mae Bwrdd Criced Cymru a Lloegr yn awyddus i godi tua £500m drwy werthu’r 49% arall.

Gall pob un o’r wyth tîm yn y Can Pelen werthu eu holl gyfrannau neu ran ohonyn nhw, neu gadw’r cyfan.

Pe bai’r cyfrannau’n cael eu gwerthu, byddai 10% yn mynd i’r gêm ar lawr gwlad.