Mae cyn-fatiwr Morgannwg, Brendon McCullum wedi cyfaddef nad oedd e’n ymwybodol ei fod ar fin torri record byd am y canred prawf cyflymaf erioed ddydd Sadwrn.

Tarodd McCullum ganred oddi ar 54 o belenni yn erbyn Awstralia yn Christchurch ddydd Sadwrn, gan dorri record Viv Richards, a gyflawnodd y gamp oddi ar 56 o belenni yn erbyn Lloegr yn Antigua yn 1985-86, a Misbah ul-Haq a efelychodd camp Richards wrth chwarae dros Bacistan yn Abu Dhabi yn 2014-15.

Dywedodd McCullum wrth ESPN Cricinfo nad oedd e’n ymwybodol ei fod e wedi torri’r record cyn i’r sgrin fawr a’r uchelseinydd ei hysbysu.

“Dim clem,” meddai McCullum. “Ro’n i’n ceisio taro pob pelen am bedwar neu chwech. Do’n i ddim yn ymwybodol o’r record ond rwy’n parchu pawb sydd wedi ei dorri o’r blaen.”

“[Viv Richards] oedd fy arwr pan o’n i’n tyfu i fyny. Mae’n braf cael ei basio ond diawch, roedd e’n chwaraewr rhyfeddol, yn gricedwr anhygoel.

“Rwy bron yn teimlo embaras o’i basio fe, i fod yn onest. Gobeithio y gwnaeth e fwynhau rhywfaint o’r ergydion.”