All Neil Robertson atal 'Rocket' rhag ennill pedwerydd tlws ym Mhencampwriaeth Agored Cymru?
Fe fydd y Sais Ronnie O’Sullivan yn anelu am bedwerydd tlws Pencampwriaeth Agored Cymru pan fydd yn herio’r Awstraliad Neil Robertson yn Arena Motorpoint Caerdydd ddydd Sul.
Sicrhaodd O’Sullivan ei le yn y ffeinal drwy guro’i gydwladwr Joe Perry o 6-3 yn y rownd gyn-derfynol nos Sadwrn.
Yn gynharach ddydd Sadwrn, roedd Robertson yn fuddugol o 6-4 yn erbyn Mark Allen o Ogledd Iwerddon.
Bydd yr enillydd ddydd Sul yn derbyn y tlws a £60,000.
Mae ‘Rocket’ wedi ennill y gystadleuaeth dair gwaith o’r blaen ac fe fyddai’n gyfartal â record yr Albanwr, John Higgins sydd wedi ei hennill hi bedair gwaith.
Byddai buddugoliaeth hefyd yn golygu bod O’Sullivan yn gymwys ar gyfer Grand Prix y Byd yn Llandudno fis nesaf.
Mae O’Sullivan yn ddi-guro mewn 18 o gemau yn 2016, yn dilyn buddugoliaeth yn y Meistri fis diwethaf, ac mae’n anelu am dlws rhif 28 ei yrfa – yr union nifer sydd gan Higgins a Steve Davis.
Robertson oedd enillydd Pencampwr y Pencampwyr ym mis Tachwedd a Phencampwriaeth y DU ym mis Rhagfyr, ac mae’n anelu am ail dlws yng Nghymru a deuddegfed tlws dethol ei yrfa.
Mae’r ffeinal yn dechrau am 1 o’r gloch.