Roedd Devils Caerdydd yn fuddugol o 4-3 yn Sheffield nos Sadwrn am y tro cyntaf yn y gynghrair ers mis Rhagfyr 2012.
Ildiodd y Cymry ddwy gôl yn y 23 munud cyntaf, ond fe wnaethon nhw daro’n ôl gyda phedair yn olynol i sicrhau’r pwyntiau.
Aeth y Saeson ar y blaen drwy Tyler Mosienko o fewn tair munud, ac fe wnaethon nhw ymestyn eu mantais wedi tair munud o’r ail gyfnod gydag ail gôl i Mosienko.
Tarodd y Devils yn ôl wrth i Tomas Kurka ddarganfod y rhwyd am yr ugeinfed tro y tymor hwn, a hynny wedi 30 o funudau.
Nid oedd trydedd gôl yr ymwelwyr yn un ddilys, wrth i Mosienko daro’r pyc i mewn i’r rhwyd oddi ar ei droed.
Roedd y sgôr yn gyfartal 2-2 wedi 35 o funudau wrth i Jake Morissette basio i Andrew Lord, a hwnnw’n rhwydo.
Aeth y Devils ar y blaen o fewn pedair munud ar ddechrau’r trydydd cyfnod drwy law Joey Martin, a hwnnw’n sgorio’i bumed gôl ar hugain y tymor hwn.
Roedd hi’n 4-2 wrth i Ryan Russell fanteisio ar ergyd Kurka wedi 48 o funudau.
Sicrhaodd Mosienko hat-tric o goliau ar yr awr ond doedd hynny ddim yn ddigon i sicrhau gornest gyfartal i’r Saeson wrth i’r Cymry ddal eu tir.
Cafodd Kurka ei enwi’n seren yr ornest, ac fe fydd Sheffield yn teithio i Gaerdydd heno yn y gynghrair wrth i’r Devils geisio cyflawni’r dwbl dros eu gwrthwynebwyr.