Mae Morgannwg wedi arwyddo’r bowliwr lled-gyflym 24 oed o’r Iseldiroedd, Timm van der Gugten.
Mae van der Gugten wedi cynrychioli ei wlad mewn pedair gornest undydd ac 19 o gemau ugain pelawd, ac mae’n symud i Gymru ar gytundeb tair blynedd.
Ymddangosodd yng nghrys ei wlad am y tro cyntaf yn 2012 yn Sharjah.
Mae e wedi chwarae’r rhan fwyaf o’i griced yn Awstralia, gan gynrychioli New South Wales yn 2011, ac yna Tasmania a’r Hobart Hurricanes.
Mae e hefyd wedi treulio cyfnodau gyda Northern Districts yn Seland Newydd a Todmorden yng Nghynghrair Swydd Gaerhirfryn.
Yng Nghwpan T20 y Byd yn 2014, fe gipiodd wiced Eoin Morgan wrth i’r Iseldiroedd guro Lloegr o 45 o rediadau.
Mae e hefyd wedi cipio wicedi JP Duminy, cyn-fatiwr Morgannwg Brendon McCullum, a Ross Taylor yn ystod ei yrfa ryngwladol.
Daeth ei berfformiad gorau mewn gornest dosbarth cyntaf yn 2013 pan gipiodd 7-68 i’r Iseldiroedd yn erbyn Namibia.
Dywedodd Prif Weithredwr Morgannwg, Hugh Morris: “Rydym wrth ein bodd o fod wedi sicrhau gwasanaeth Timm am y tair blynedd nesaf o leiaf i gryfhau ein hymosod ymhlith y bowlwyr cyflym.
“Mae e’n fowliwr cyflym dawnus sydd wedi sefyll allan i’r Iseldiroedd ac mae ganddo fe’r potensial i gael gyrfa sirol lwyddiannus gyda Morgannwg.”
Dywedodd Van der Gugten, sy’n enedigol o Awstralia: “Rwy wrth fy modd o gael ymuno â Morgannwg.
“Rwy bob amser wedi bod yn awyddus i chwarae criced sirol ac rwy’n falch o fod wedi ymuno â sir sydd mor uchelgeisiol ac angerddol.”