Mae Morgannwg wedi arwyddo’r bowliwr lled-gyflym 21 oed, Harry Podmore ar fenthyg o Swydd Middlesex.
Mae Podmore wedi creu argraff yn ystod y tymhorau diwethaf, fel ei fod bellach yn rhan o raglen ddatblygu Lloegr i fowlwyr cyflym.
Bydd Podmore ar gael am chwe gêm Bencampwriaeth ar ddechrau’r tymor yn absenoldeb Jack Murphy a Ruaidhri Smith sy’n cwblhau arholiadau yn y brifysgol.
Dydy Podmore ddim wedi chwarae criced dosbarth cyntaf, ond mae e wedi ymddangos sawl gwaith yn nhîm undydd Swydd Middlesex yn ystod y ddau dymor diwethaf, ac fe gafodd ei gytundeb ei ymestyn ar ddiwedd y tymor diwethaf.
Bydd tymor Morgannwg yn dechrau gyda gornest baratoadol yn erbyn Prifysgol Caerdydd ar Ebrill 11, cyn iddyn nhw groesawu Swydd Gaerlŷr i Gaerdydd ar Ebrill 17 yn y Bencampwriaeth.
‘Chwaraewr disglair’
Wrth gyhoeddi bod Harry Podmore wedi symud ar fenthyg i Forgannwg, dywedodd Prif Weithredwr y sir, Hugh Morris: “Rydyn ni wedi bod yn ymwybodol o’r cynnydd a wnaed gan Harry dros y tymhorau diwethaf gyda Swydd Middlesex a’i waith datblygu gyda rhaglen bowlwyr cyflym Lloegr.
“Mae e’n dalent ifanc ddisglair fel bowliwr cyflym a fydd yn ychwanegu dyfnder i’n hadran fowlio cyflym, sy’n un o’r meysydd y gwnaethon ni nodi bod angen ei chryfhau.
“Gyda bowlwyr o safon ryngwladol yn Swydd Middlesex, mae cyfle iddo fe chwarae criced dosbarth cyntaf i Forgannwg ac rydym yn ddiolchgar i Angus Fraser a Chlwb Criced Swydd Middlesex am ein galluogi ni i gael Harry ar fenthyg.”
Dywedodd Harry Podmore: “Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at ymuno â Morgannwg am ddeufis agoriadol y tymor ac rwy’n hynod ddiolchgar i’r ddwy ochr am roi’r cyfle gwych hwn i fi gael datblygu fy ngyrfa.”