Does gan hyfforddwr bowlwyr Lloegr, Ottis Gibson ddim diddordeb yn swydd Prif Hyfforddwr Morgannwg, yn ôl adroddiadau.

Mae George Dobell, un o ohebwyr ESPN Cricinfo, yn honni bod Morgannwg wedi gwahodd Gibson, fu’n chwarae i’r sir fel bowliwr cyflym rhwng 1994 a 1996, i wneud cais am y swydd, ond bod Gibson wedi gwrthod.

Roedd Gibson yn Brif Hyfforddwr India’r Gorllewin rhwng 2010 a 2014, ar yr un pryd ag yr oedd Toby Radford yn is-hyfforddwr.

Cafodd enw Gibson ei grybwyll fel ymgeisydd posib pan gafodd Radford ei benodi gan Forgannwg ddau dymor yn ôl.

Dywedodd Morgannwg ddechrau’r mis eu bod nhw’n gobeithio penodi Prif Hyfforddwr newydd ddechrau mis Chwefror.