Dreigiau Casnewydd Gwent 23–13 Leinster

Cafodd y Dreigiau fuddugoliaeth dda wrth i Leinster ymweld â Rodney Parade ar nos Wener wlyb yn y Guinness Pro12.

Sgoriodd Jason Tovey ddeunaw pwynt wrth i’r rhanbarth o Gymru sicrhau buddugoliaeth haeddiannol yn erbyn y tîm sydd yn ail yn y tabl.

Hanner Cyntaf

Dechreuodd y Dreigiau’n dda a chroesodd Ashton Hewitt am y cais cyntaf wedi dim ond pedwar munud yn dilyn gwaith adeiladu trefnus gan y blaenwyr.

Ychwanegodd Tovey’r trosiad ond caeodd cic gosb Fergus McFadden y bwlch wedi sgrym wael gan y tîm cartref.

Aeth y Gwyddelod ar y blaen wedi chwarter awr wrth i’r mewnwr, Luke McGrath, ganfod bwlch enfawr yn amddiffyn y Dreigiau i groesi o dan y pyst, 7-10 y sgôr wedi trosiad McFadden.

Llwyr reolodd y Dreigiau weddill yr hanner cyntaf serch hynny a bu rhaid i Leinster ddiolch i’r dyfarnwr fideo am wrthod cais yr un i Hewitt ac Adam Warren hanner ffordd trwy’r hanner.

Gyda Dan Leavy yn y gell gosb i’r Gwyddelod fe ddaeth ail gais i’r tîm cartref yn y diwedd saith munud cyn yr egwyl, Tovey’n tirio wedi bylchiad gwreiddiol Hewitt.

Llwyddodd Tovey gyda’r trosiad cyn ychwanegu gôl adlam hefyd i roi mantais haeddiannol o saith pwynt i’r Cymry ar yr hanner.

Ail Hanner

Roedd y gwynt a’r glaw a oedd y tu ôl i’r Dreigiau yn yr hanner cyntaf o blaid y Gwyddelod yn yr ail gyfnod ac roedd McFadden wedi cau’r bwlch o fewn dim gyda’i ail gic gosb.

Bu rhaid i’r Dreigiau amddiffyn am ran helaeth o’r hanner wedi hynny ond gwnaethant hynny yn ddewr ac effeithiol.

Pan lwyddodd y Dreigiau yn y diwedd i ddianc o’i hanner eu hunain fe lwyddodd Tovey gyda chic gosb arall i roi saith pwynt rhwng y timau gyda deg munud i fynd.

Ychwanegodd y maswr cartref dri phwynt arall yn y munud olaf i ddiogelu’r fuddugoliaeth ac i amddifadu’r ymwelwyr o bwynt bonws hyd yn oed.

Mae’r canlyniad yn atal Leinster rhag codi dros y Scarlets i frig y Pro12, ond yn bwysicach i’r Dreigiau, mae’r canlyniad yn codi Gwŷr Gwent dros Zebre i’r degfed safle yn y tabl.

.

Dreigiau

Ceisiau: Ashton Hewitt 4’, Jason Tovey 33’

Trosiadau: Jason Tovey 5’, 34’

Ciciau Cosb: Jason Tovey 70’, 80’

Gôl Adlam: Jason Tovey 37’

.

Leinster

Cais: Luke McGrath 15’

Trosiad: Fergus McFadden 16’

Ciciau Cosb: Fergus McFadden 11’, 46’

Cardiau Melyn: Dan Leavy 27’, Fergus McFadden 72’