Wrth i eitem achlysurol ‘Golwg o’r ffin’ ddychwelyd i Golwg360 ar ddechrau blwyddyn newydd, mae’r darn cyntaf yn rhoi sylw i Gwpan Criced Pentrefi Davidstow, sydd wedi’i noddi gan y cylchgrawn ‘The Cricketer’.
Clwb Criced Bronwydd oedd yn chwifio baner Cymru yn y rowndiau Prydeinig y tymor diwethaf, wrth iddyn nhw gyrraedd rownd yr wyth olaf, a cholli yn y pen draw o 57 o rediadau yn erbyn Pelsall o Ganolbarth Lloegr.
Eleni, byddan nhw’n dechrau eu hymgyrch gartref yn yr ail rownd yn erbyn Lawrenni yn rhanbarth Dyfed.
Bydd y timau sy’n dechrau yn y rownd gyntaf yn chwarae ar Fai 1, tra bydd y rhai sy’n mynd yn syth i’r ail rownd yn chwarae ar Fai 15.
Bydd y rowndiau terfynol rhanbarthol yn cael eu cynnal ar Fehefin 12, cyn i enillwyr yr amryw ranbarthau fynd ben-ben â’i gilydd yn y rowndiau terfynol cenedlaethol, sy’n dechrau ar Fehefin 26.
Bydd y ddau dîm sy’n cyrraedd y rownd derfynol yn y pen draw yn cystadlu am Gwpan Pentrefi Davidstow yn Lord’s ar Fedi 4.
Rhanbarthau
Swydd Gaer a Chlwyd
Mae pedwar tîm o Ogledd Cymru’n cystadlu yn rhanbarth Swydd Gaer a Chlwyd, sef Carmel, Helygain, Corwen a Llaneurgain.
Bydd rownd gynta’r rhanbarth yn cael ei chynnal ar Fai 1.
Bydd Helygain yn croesawu Broadbottom, tra bydd Carmel yn teithio i Ashley, bydd Corwen yn mynd i Alvenley a bydd Llaneurgain yn mynd dros y ffin i herio Caldy.
Er bod timau Powys a Swydd Henffordd yn herio’i gilydd yn yr un rhanbarth, does yna’r un tîm o Bowys yn cystadlu eleni.
Dyfed
Bydd ail rownd rhanbarth Dyfed yn cael ei chynnal ar Fai 15, ac mae’r gemau fel a ganlyn:
Drefach v Llandysul
Bronwydd v Lawrenni
Caeriw v Pontyberem
Mae Creseli drwodd i’r drydedd rownd yn ddi-wrthwynebiad.
Morgannwg a Gwent
Bydd ail rownd rhanbarth Morgannwg a Gwent yn cael ei chynnal ar Fai 15 hefyd, ac mae’r gemau fel a ganlyn:
Miskin Manor v Creigiau
Sain Ffagan v Ynystawe
Crymlyn v Tondu
Mae Sully Centurions o Sili drwodd i’r drydedd rownd yn ddi-wrthwynebiad.