Gareth Bale
Mae asiant Gareth Bale wedi ymateb yn gandryll ar ôl i ddogfennau ymddangos ar y we sydd yn ‘profi’ bod trosglwyddiad y Cymro i Real Madrid wedi torri record byd.

Ers i’r clwb o Sbaen brynu Bale o Spurs yn 2013 maen nhw wedi bod yn gyndyn iawn i gyfeirio at y ffi fel un record byd, gan awgrymu ei fod tua €91m (£78m).

Ond roedd y ddogfen gafodd ei rhyddhau heddiw gan wefan Football Leaks, yn ymddangos fel petai’n cadarnhau bod Real Madrid wedi talu cyfanswm o €100m, neu £85m, y chwaraewr.

Mae hynny’n fwy na’r €96m gafodd ei dalu i Manchester United am Cristiano Ronaldo yn 2009, y record byd cyn trosglwyddiad Bale.

Ofn pechu Ronaldo

Y gred gyffredinol yw bod Real Madrid wedi bod yn awyddus i beidio â datgelu’r ffi gywir rhag iddyn nhw bechu Ronaldo, gan mai’r Cymro ac nid fo ydi chwaraewr drytaf y byd bellach.

Dywedodd asiant Bale, Jonathan Barnett, y dylai ymchwiliad gael ei gynnal ar unwaith i ddarganfod sut y daeth y ddogfen gyfrinachol am y ffi i ddwylo’r wefan.

“Dw i’n meddwl ei bod hi’n warthus bod pobl yn medru cael gafael ar y math yma o beth,” meddai’r asiant wrth y Daily Telegraph.

“Mae’n dangos amarch llwyr i’r ddau glwb a’r chwaraewr.”

Ers symud i Fadrid mae Bale wedi helpu’r clwb i ennill Cynghrair y Pencampwyr a’r Copa del Rey, a fo sgoriodd y gôl enillodd y cwpan Ewropeaidd iddyn nhw yn y ffeinal yn erbyn Atletico Madrid yn 2014.