Barrie Meyer (chwith) gyda David Constant
Mae gwasanaeth wedi’i gynnal yn Ne Affrica yn dilyn marwolaeth un o gyn-bêldroedwyr Casnewydd.

Bu farw Barrie Meyer, 83, yn ei gartref yn Durban yr wythnos diwethaf.

Fel pêl-droediwr y gwnaeth ei enw’n wreiddiol, gan gynrychioli timau Casnewydd, Bristol Rovers, Plymouth Argyle a Henffordd.

Ond fe symudodd yn y pen draw i’r byd criced, gan chwarae fel wicedwr mewn 406 o gemau dosbarth cyntaf i Swydd Gaerloyw o 1957 i 1971.

Fe gipiodd 707 o ddaliadau a 119 o stympiadau yn ystod ei yrfa.

Ar ôl ymddeol, fe ddaeth yn ddyfarnwr sirol a rhyngwladol, gan ddyfarnu mewn 26 o brofion o 1978 i 1993, gan gynnwys prawf enwog y Lludw yn Headingley yn 1981.

Dyfarnodd mewn dwy gêm derfynol yng Nghwpan y Byd yn 1979 a 1983.

Yn 2006, fe gyhoeddodd ei hunangofiant, ‘Getting It Right’ ar y cyd ag archifydd a sgôr-geidwad Morgannwg, Dr Andrew Hignell.

Ar ôl ymddeol, symudodd i fyw yn Ne Affrica, lle’r oedd yn hyfforddi chwaraewyr a dyfarnwyr.