Er gwaetha’r tywydd cymylog a gwlyb yng Nghaerdydd heddiw, mae’r haul wedi bod yn tywynnu mewn un gornel fach o barth cefnogwyr Cwpan y Byd yng nghanol y brifddinas.

Mae Caerdydd wedi bod yn fwrlwm o grysau rygbi a bloeddi’r cefnogwyr unwaith eto heddiw, wrth i Awstralia a Ffiji herio’i gilydd yn Stadiwm y Mileniwm.

Ac yn ardal y cefnogwyr sydd heb docynnau y tu allan i’r stadiwm, mae grŵp o Ffijiaid wedi bod yn diddanu’r dorf drwy’r prynhawn gyda sioe o ddawnsio a cherddoriaeth y tu allan i gwt traddodiadol, neu bure, sydd wedi cael ei hadeiladu.

“Mae parth y cefnogwyr yn hollol lawn, dw i’n meddwl ei fod e’n dal tua 10,000 o bobl, dy’ch chi prin yn gallu symud,” meddai Jane West o Tourism Fiji, sydd wedi trefnu’r llecyn.

“Mae pawb mor gyfeillgar, yn mwynhau’r gêm fawr ar y sgrin, a hefyd yn mwynhau’n cornel fach ni o Ffiji.”

Dawnsio a chanu

Mae Jane West yn esbonio bod cefnogwyr y ddwy wlad, yn ogystal â’r rhai niwtral hynny sydd wedi dod i fwynhau’r awyrgylch, wedi dod i gael cip ar beth sydd yn y bure.

“Mae gennym ni gwt Ffijiaidd sydd wedi cael ei adeiladu gyda llun o draeth trofannol ar y wal gefn, ac mae pawb eisiau dod draw i gael llun o’u hunain yn ‘Ffiji’,” meddai.

“Mae pawb gyda baneri, ac yn mwynhau dod draw i gyfarfod â’r Ffijiaid a chanu caneuon gyda nhw. Mae gennym ni fand traddodiadol o naw aelod sydd wedi dod o Ffiji, ac wedi bod yn perfformio gyda’i gilydd ers 41 o flynyddoedd.

“Mae gennym ni hefyd ymladdwr mewn gwisg draddodiadol sydd hefyd yn cyflwyno pobl i seremoni kava [diod wedi’i wneud o wreiddyn coeden bupur], sydd yn nodi achlysuron arbennig yn Ffiji.”

Codi hyder

Yn ôl Jane West mae hyder y Ffijiaid wedi cynyddu ers y perfformiad calonogol yn erbyn Lloegr yn y gêm agoriadol, ble cafodd dawns draddodiadol y bole, eu fersiwn nhw o’r haka, ei weld ar sgriniau teledu ar draws y byd.

“Mae’r Ffijiaid yn barod [ar gyfer y gêm yn erbyn Awstralia]. Roedden nhw’n dda iawn yn erbyn Lloegr nos Wener ac felly dw i’n ffyddiog ar gyfer heddiw. Roedden nhw’n falch iawn o fod wedi bod yn rhan o’r seremoni agoriadol,” meddai.

“Mae buddugoliaeth Siapan hefyd wedi rhoi hwb i’r gwledydd llai yn y twrnament, ond mae hefyd wedi cyffroi’r boblogaeth ynglŷn â Chwpan y Byd, tebyg i’r hynny welsom ni yn ystod y Gemau Olympaidd.”

Fe fydd cyfle arall i weld y Ffijiaid pan fyddan nhw nôl yng Nghaerdydd dydd Iau nesaf, wrth iddyn nhw herio Cymru yn nhrydedd gêm y grŵp i’r ddau dîm.

“Mae gan Ffiji a Chymru hanes o chwarae’i gilydd yng Nghwpan y Byd ac mae parch mawr ar y ddwy ochr tuag at ei gilydd. Fe fydd y ddwy ochr yn edrych ymlaen!” meddai Jane West.

Tebygrwydd

Yn ôl Jane West mae llawer o debygrwydd rhwng Cymru a Ffiji er eu bod ar naill begwn y byd i’w gilydd – heblaw am y tywydd o bosib!

“Mae’n drofannol iawn ac yn enwog am ei phobl hapus. Mae cymaint i’w wneud yno a dyw pobl ddim yn ymwybodol ohono. Rydyn ni wedi cael ymateb gwych gan y dorf heddiw,” meddai.

“Mae tua 3,000 o Ffijiaid yn byw ym Mhrydain, llawer ohonyn nhw gyda’r lluoedd arfog. Maen nhw i gyd wrth eu bodd â’u rygbi.

“Dyw e ddim rhy wahanol i Gymru. Maen nhw’n hoff o’u canu a’u rygbi, ac mae traethau prydferth gan y ddwy.”