Fe fydd batiwr agoriadol Morgannwg, James Kettleborough yn wynebu ei hen sir, Swydd Northampton ar eu tomen eu hunain yn ail adran y Bencampwriaeth ddydd Llun.

Yr un chwaraewyr a gollodd yn erbyn Swydd Gaint yng Nghaerdydd yr wythnos diwethaf sydd wedi teithio i Northampton, ac mae’r bowliwr cyflym Dewi Penrhyn Jones wedi’i ychwanegu at y garfan.

Mae pryderon am ffitrwydd y chwaraewr amryddawn David Lloyd, sydd wedi anafu ei ysgwydd.

Tarodd Kettleborough hanner canred yn erbyn Swydd Gaint yr wythnos diwethaf, ac fe fydd Morgannwg yn gobeithio y gall y chwaraewr ifanc ailadrodd ei orchestion unwaith eto wrth i’r tymor ddirwyn i ben.

Mark Wallace fydd yn arwain Morgannwg unwaith eto yn absenoldeb Jacques Rudolph, sydd wedi dychwelyd i Dde Affrica ar gyfer genedigaeth ei fab.

Mae’r batiwr agoriadol ifanc Jeremy Lawlor yn cael ail gyfle wedi iddo fethu sgorio’r un rhediad yn y ddau fatiad yr wythnos diwethaf.

Dywedodd prif hyfforddwr Morgannwg, Toby Radford ei fod yn awyddus i roi digon o gyfleoedd i’r chwaraewyr ifainc ar ddiwedd y tymor.

“Mae nifer o chwaraewyr fel Graham Gooch wedi cael trafferth ar ddechrau eu gyrfa felly rhaid i chwaraewyr aros yn bositif a bod yn hyderus o’u gallu.

“Ry’n ni wedi dewis y chwaraewyr am fod gyda ni ffydd ynddyn nhw ac ry’n ni’n credu y gallan nhw wneud eu gwaith.

Carfan Swydd Northampton: A Wakely (capten), Mohammad Azharullah, M Chambers, B Duckett, J Cobb, R Gleeson, R Keogh, D Murphy, R Newton, A Rossington, R Kleinveldt, C Thurston, O Stone.

Carfan Morgannwg: J Lawlor, J Kettleborough, D Lloyd, C Ingram, C Cooke, A Donald, M Wallace (capten), G Wagg, C Meschede, A Salter, M Hogan, D Penrhyn Jones