Mae Morgannwg wedi colli o 316 o rediadau yn erbyn Swydd Gaint yn eu gornest olaf ar eu tomen eu hunain yn ail adran y Bencampwriaeth y tymor hwn.

Roedd gan Forgannwg nod annhebygol o 554 am y fuddugoliaeth ar y diwrnod olaf yn y Swalec SSE.

Ond er gwaethaf canred dosbarth cyntaf cynta’r tymor i’r batiwr llaw chwith o Dde Affrica, Colin Ingram (105 heb fod allan), cafodd y Cymry eu bowlio allan am 237 yn eu hail fatiad.

Cipiodd y bowliwr lled-gyflym, Darren Stevens bum wiced am 54, ac fe gafodd ei gefnogi gan Matt Coles (4-76).

Crynodeb

Wedi galw’n gywir a phenderfynu batio’n gyntaf, sgoriodd Swydd Gaint 309 yn eu batiad cyntaf, wrth i Rob Key daro 94 a Darren Stevens 64. Roedd hanner canred yr un hefyd i’r capten Sam Northeast (56) a Sean Dickson (59).

Michael Hogan (4-51) a David Lloyd (3-80) rannodd y wicedi i Forgannwg.

Wrth ymateb, sgoriodd Morgannwg 207 yn eu batiad cyntaf, wrth i’r bowliwr cyflym llaw chwith Graham Wagg gyfrannu 58 gyda’r bat fel prif sgoriwr y Cymry. Adam Riley oedd bowliwr gorau’r Saeson yn y batiad, wrth iddo gipio pedair wiced am 47.

Ond ail fatiad y Saeson osododd yr hoelen olaf yn arch Morgannwg, wrth i Rob Key (158) a Joe Denly (161*) osod record yn erbyn y Cymry am bartneriaeth ail wiced o 222. Roedd hanner canred yr un hefyd i Daniel Bell-Drummond (54) a Sam Northeast (50*).

Erbyn diwedd y trydydd diwrnod, roedd Morgannwg yn 101-2 wrth gwrso 554. Ond amddiffyn yn hytrach na chwrso oedd y nod, ond roedd bowlwyr Swydd Gaint yn rhy gryf ac fe ddaeth yr ornest i ben yn ystod sesiwn y prynhawn.

Gyda’r tymor ar ben yn nhermau dyrchafiad, mae Morgannwg bellach yn chwarae i sicrhau diweddglo parchus wrth iddyn nhw deithio i Northampton ddydd Llun, cyn gorffen y tymor ym Mryste yn erbyn Swydd Gaerloyw ymhen deng niwrnod.