Mae Morgannwg yn croesawu Swydd Gaerloyw i’r Swalec SSE nos Wener gan wybod fod rhaid ennill er mwyn osgoi mynd allan o’r gystadleuaeth cyn i’r gemau eraill ddod i ben.
Mae’r prif hyfforddwr Toby Radford wedi enwi’r un garfan o ddeuddeg a drechodd Spitfires Swydd Gaint yr wythnos diwethaf.
Mae tynged Morgannwg yn y gystadleuaeth hon yn eu dwylo nhw eu hunain i raddau, ond maen nhw’n ddibynnol ar ganlyniadau ffafriol yn y gemau eraill i gyrraedd rownd yr wyth olaf.
Dywedodd Toby Radford ar drothwy’r ornest: “Ry’n ni’n chwarae yn erbyn Swydd Gaerloyw… bron iawn fel pe baen ni’n chwarae mewn gêm derfynol er mwyn ceisio cyrraedd rownd yr wyth olaf.
“Ry’n ni’n bositif wrth fynd ati, fe wnaethon ni guro’r tîm sydd ar y brig [Swydd Gaint] yr wythnos diwethaf yn Tunbridge Wells ac roedd honno’n fuddugoliaeth dda. Roedden ni’n nerfus wrth gyrraedd y belen olaf ond ry’n ni wedi chwarae criced da yn y gystadleuaeth hon ac ry’n ni wedi curo timau da mewn grŵp cryf.
“Allwn ni ddim ond rheoli’r gêm ry’n ni’n chwarae ynddi, felly ry’n ni’n gwybod fod rhaid ennill a dibynnu ar rai canlyniadau eraill i fynd o’n plaid ni.”
Fe lwyddodd Morgannwg i gyrraedd rownd yr wyth olaf y llynedd, ond daeth y glaw i Fanceinion i gau pen y mwdwl ar eu gobeithion bryd hynny, wrth iddyn nhw golli o 1 rhediad yn erbyn Swydd Gaerhirfryn.
Y posibiliadau
Mae Eryr Swydd Essex yn bedwerydd yn y tabl a Morgannwg yn bumed, a hynny am fod gan y Saeson gyfradd sgorio uwch na’r Cymry, ond mae gan y ddwy sir 14 pwynt yr un.
Mae Swydd Hampshire yn ail yn y tabl gydag 16 o bwyntiau, a Siarcod Swydd Sussex yn drydydd gyda 15 o bwyntiau.
Dydy rhagolygon y tywydd ddim yn argoeli’n dda i Forgannwg ond pe baen nhw’n llwyddo i orffen yr ornest a sicrhau’r fuddugoliaeth, byddai’n rhaid iddyn nhw ddibynnu ar ganlyniadau’r siroedd eraill.
Mae Swydd Surrey yn herio Siarcod Swydd Sussex ac mae Spitfires Swydd Gaint yn teithio i Chelmsford i herio Eryr Swydd Essex.
Pe bai’r holl gemau’n dod i ben yn gynnar oherwydd y glaw, byddai Morgannwg yn gorffen yn bumed ac fe fyddai ar ben arnyn nhw yn y gystadleuaeth.
Pe bai’r gêm rhwng Eryr Swydd Essex a Swydd Gaint yn dod i ben yn gynnar oherwydd y glaw, yna fe fyddai buddugoliaeth i Forgannwg yn eu codi i’r pedwerydd safle, sy’n ddigon i gyrraedd rownd yr wyth olaf.
Pe bai’r glaw yn amharu ar yr ornest yng Nghaerdydd, fe fyddai’n rhaid dechrau erbyn 8.57pm er mwyn cynnal gornest pum pelawd.
Y gwir amdani yw y byddwn ni’n gwybod erbyn 9.45pm heno a fydd Morgannwg yn un o’r wyth sir fydd yn mynd ymlaen i’r rownd nesaf.
O safbwynt Swydd Gaerloyw, fe fyddai’n rhaid iddyn nhw guro Morgannwg a gobeithio bod Spitfires Swydd Gaint yn curo Eryr Swydd Essex er mwyn sicrhau eu lle yn rownd yr wyth olaf.
Mae Hamish Marshall ac Ian Cockbain wedi’u hanafu ac mae Peter Handscomb yn cynrychioli Awstralia A ar daith yn India.
Carfan 12 dyn Morgannwg: J Rudolph (capten), C Ingram, A Donald, B Wright, C Cooke, C Meschede, G Wagg, M Wallace, D Lloyd, A Salter, D Cosker, M Hogan
Carfan 13 dyn Swydd Gaerloyw: M Klinger (capten), C Dent, B Howell, G Jones, K Noema-Barnett, J Taylor, J Fuller, T Smith, C Miles, L Norwell, D Payne, M Hammond, W Tavare