M
ae rheolwr y Drenewydd wedi dweud ei fod “yn falch iawn, iawn” o’i chwaraewyr er iddyn nhw golli 5-1 dros ddau gymal yn erbyn FC Kobenhavn yn ail rownd ragbrofol Cynghrair Ewropa.

Ac mae wedi dweud ei fod yn gobeithio bod yn ôl yn y gystadleuaeth y flwyddyn nesa’.

Y Drenewydd oedd y tîm olaf o Uwch Gynghrair Cymru ar ôl yn Ewrop ar ôl i’r Seintiau Newydd, Y Bala ac Airbus golli, ond roedd eu hymwelwyr profiadol o Ddenmarc yn rhy dda iddyn nhw y tro hwn.

‘Balchder’

Wrth edrych yn ôl ar eu siwrne Ewropeaidd, fe ddywedodd rheolwr y tîm mai balchder oedd ei unig deimlad.

“Roedd ennill yn y rownd ragbrofol cyntaf yn llwyddiant mawr iawn i’r clwb,” meddai Chris Hughes ar ôl y gêm.

“I wynebu tîm oedd yn chwarae yng Nghynghrair y Pencampwyr ddwy flynedd yn ôl a mynd allan a chwarae mor dda ag a wnaethon ni – fe wnaeth y chwaraewyr jobyn gwych.”

Torf o 1,400

Roedd y Drenewydd eisoes wedi creu hanes wrth ennill yn y rownd gyntaf yn erbyn FC Valletta o ynys Malta.

Ond roedd yr her yn yr ail rownd ragbrofol dipyn yn anoddach, yn enwedig ar ôl iddyn nhw golli 2-0 yn Copenhagen yn eu cymal cyntaf.

Ac fe roddwyd diwedd ar eu gobeithion yn yr hanner cyntaf ar Barc Latham neithiwr wrth i beniad Marvin Pourie a chic o’r smotyn Martin Jorgensen roi’r ymwelwyr ddwy gôl ar y blaen ar yr egwyl.

Cipiodd Pourie drydedd gôl i FC Kobenhavn ar ddechrau’r ail hanner, ond fe gafodd y dorf o dros 1,400 yn y Drenewydd reswm i ddathlu cyn y diwedd wrth i Tom Goodwin rwydo gôl gysur.