Tarodd Luke Wright 92 heb fod allan wrth i Siarcod Swydd Sussex chwalu Morgannwg o wyth wiced yn Hove nos Wener.

Cyrhaeddodd y Siarcod eu nod o 165 o fewn pymtheg pelawd wrth i George Bailey daro’r troellwr llaw chwith, Dean Cosker am dri chwech yn y belawd.

Mae’r fuddugoliaeth – sydd wedi amddifadu Morgannwg o’u trydedd oddi cartref yn olynol – yn golygu bod y Siarcod bron yn sicr o’u lle yn rownd yr wyth olaf gyda dwy ornest yn weddill.

Adeiladodd Wright a Chris Nash bartneriaeth o 117 oddi ar 69 o belenni, gan guro’u partneriaeth yng Nghaerdydd ar ddechrau’r gystadleuaeth o un rhediad – hon oedd y drydedd bartneriaeth uchaf am y wiced gyntaf yn hanes y sir yn y T20.

Tarodd Nash saith ergyd i’r ffin yn ystod y batiad, gan benderfynu ymosod ar y troellwyr Cosker ac Andrew Salter.

Hon oedd y pumed ornest o’r bron gafodd ei hennill gan y sir oedd yn batio’n ail yn Hove.

Yn gynharach yn yr ornest, roedd 63 gan Ben Wright oddi ar 46 o belenni wedi sicrhau cyfanswm parchus i Forgannwg wrth i fowlwyr y Siarcod, Chris Liddle a Will Beer gipio dwy wiced yr un.

Ond seren y noson o ran y bowlwyr oedd bowliwr cyflym llaw chwith y Siarcod, Tymal Mills a gipiodd dair wiced am 34.

Bydd Morgannwg yn teithio i Swydd Gaint nos Wener nesaf (Gorffennaf 17) cyn gorffen ar y Swalec yn erbyn Swydd Gaerloyw yr wythnos ganlynol (Gorffennaf 24).