Wrth i Loegr fynd ati i geisio bowlio Awstralia allan am lai na 412 dros y deuddydd nesaf, mae’r batiwr Ian Bell yn hyderus fod digon o gymorth yn y llain ar gyfer bowlwyr Lloegr.
Mae’r llain wedi cael ei beirniadu am fod yn rhy ffafriol i’r batwyr yn ystod y tri diwrnod cyntaf, ond yn nwylo’r bowlwyr mae tynged Lloegr ym mhrawf cyntaf Cyfres y Lludw erbyn hyn.
Dywedodd Ian Bell: “Yng nghriced y Lludw, mae unrhyw beth yn bosib.
“Dw i’n sicr y byddan nhw [Awstralia] yn ffyddiog y gallan nhw fynd yn agos neu ei gwrso. Ry’n ni’n gwybod fod rhaid i ni weithio’n galed yfory felly mae angen i ni orffwys heno.”
Cipiodd Lloegr bum wiced olaf batiad cyntaf Awstralia am 44 rhediad ar ddechrau’r trydydd diwrnod, ac mae Bell o’r farn fod rhaid i’r bowlwyr efelychu’r perfformiad hwnnw er mwyn sicrhau’r fuddugoliaeth.
“Rhaid i ni ddod allan a bowlio fel wnaethon ni yn y deg pelawd gyntaf heddiw. Ro’n i’n credu ein bod ni’n rhagorol. Ry’n ni’n gwybod fod gan ein bowlwyr y sgiliau i gipio 20 wiced.
“Mae’n gyfnod peryglus bob amser cyn derbyn y bêl newydd, ond ro’n i’n credu bod y bois wedi gosod eu stamp.
“Mae digon yn y llain ar eu cyfer nhw, dw i’n meddwl. Mae’r llain yn araf ond mae tipyn o fowns anwastad.
“Y gyfrinach, am wn i, yw rhoi digon o belenni yn y mannau cywir. Roedden ni’n rhyfeddol wrth wneud hynny yn y batiad cyntaf.”
Tactegau amgenach
Er mai bowlwyr Lloegr fydd o dan y chwyddwydr ar ddechrau’r pedwerydd diwrnod, fe fydd tactegau a meddylfryd Lloegr fel tîm yn hanfodol er mwyn llwyddo.
Ychwanegodd Bell: “Mae’n bosib y bydd angen i ni osod mwy o faeswyr o flaen y bat ar adegau priodol.
“Mae’r tri diwrnod cyntaf wedi bod yn wych. Mae hynny wedi rhoi tipyn o hyder i ni. Rhaid i ni sicrhau fod pethau union yr un fath yfory.
“Mae gyda ni dipyn o barch i Awstralia gan eu bod nhw wedi chwarae’n wych ers cyhyd.
“Ry’n ni’n gwybod y bydd Awstralia’n taro nôl. Bydd adegau pan fydd rhaid i ni sefyll i fyny a wynebu’r pwysau.
“Ond mae pawb yn yr ystafell newid yn gyffrous ac yn barod am yr her ar ddechrau’r haf.”