Mae troellwr Awstralia, Nathan Lyon yn hyderus y gall ei dîm dorri record er mwyn sicrhau’r fuddugoliaeth ym mhrawf cyntaf Cyfres y Lludw yn y Swalec SSE yng Nghaerdydd.
Fe fydd angen 412 ar Awstralia oddi ar 180 o belawdau dros y deuddydd nesaf er mwyn cael blaenoriaeth o 1-0 ar ddechrau’r gyfres.
Does neb yn hanes y Lludw wedi llwyddo i gwrso cymaint â hynny o rediadau i ennill.
Ond mae Lyon yn ymgorfforiad o agwedd Awstraliaid – does yna’r un dasg sy’n rhy fawr i’w chwblhau’n llwyddiannus.
“Mae pob record yna i’w thorri. Ry’n ni’n parhau’n bositif gan fod gyda ni fatwyr o safon byd eang. Mae pawb yr holl ffordd lawr i rif unarddeg yn batio felly does dim rheswm pam na allwn ni gael y rhediadau hyn os allwn ni fynd ati yn y modd cywir a chael canred ymhlith y batwyr a chreu partneriaethau mawr.”
Pwyll piau hi, meddai Lyon, sy’n credu bod deuddydd i gwrso’r nod yn rhoi mantais i Awstralia ar lain sydd yn sicr wedi ffafrio’r batwyr hyd yn hyn.
“Dydych chi ddim yn ennill pwyntiau ychwanegol os ydych chi’n cwrso’r nod mewn 30 pelawd. Mae gyda ni 180 o belawdau i gwrso 400 o rediadau.
“Does dim rheswm pam fod rhaid i ni ddod allan a chael 100 oddi ar ddeg pelawd.”
I Lyon, mae’r dasg sydd o flaen Awstralia’n syml.
“Os ydyn ni’n batio am ddeuddydd, byddwn ni’n ennill y gêm.
“Mae angen mwy o ddyhead wrth y llain a throi 30au’n gannoedd.”
Y llain
Er yr holl feirniadaeth o’r llain ar y Swalec dros y tridiau diwethaf, dydy Lyon ddim yn rhagweld unrhyw drafferthion wrth gwrso nod sylweddol.
“Mae’r llain yn eitha da i fod yn deg. Does dim olion traed arni ar gyfer y troellwr. Mae hi braidd yn araf ond dw i ddim wedi gweld llawer o broblemau felly rhaid i ni fod yn amyneddgar.”
Er hynny, mae Lyon hefyd yn sylweddoli maint y dasg sydd o flaen Awstralia wrth iddyn nhw geisio sicrhau mantais yn y gyfres cyn teithio i Lord’s ar gyfer yr ail brawf.
“Cyfres y Lludw yw hon. Mae’n un o’r cyfresi caletaf fyddwch chi’n chwarae ynddi fel cricedwr o Awstralia.
“Dydy doniau Lloegr ddim yn ein synnu ni. Mae’r ffordd maen nhw’n chwarae criced yn rhyfeddol. Maen nhw’n gricedwr o safon byd-eang.”
Un o’r pryderon i Awstralia fydd perfformiad eu batwyr cydnabyddedig, a hynny’n bennaf oherwydd record wael y bowlwyr wrth fatio oddi cartref yng Nghyfres y Lludw.
“Fel bowlwyr, ry’n ni’n ymfalchïo yn ein batio.
“Gobeithio y cawn ni gwpwl o bartneriaethau’r tro nesaf fydd rhaid i’r bowlwyr fatio.”