Fe orffennodd y trydydd diwrnod yn y Swalec SSE yng Nghaerdydd yn seiniau’r ‘Barmy Army’, sy’n arwydd o berfformiad Lloegr ym mhrawf cyntaf Cyfres y Lludw yn erbyn Awstralia.
Roedd y sesiwn olaf yn un allweddol i Loegr wrth iddyn nhw osod nod o 412 i Awstralia am y fuddugoliaeth.
Daeth partneriaeth o 97 rhwng Ian Bell a Joe Root i ben yn fuan wedi’r egwyl te, wrth i Bell gael ei fowlio gan Mitchell Johnson wrth geisio taro pelen syth, ac roedd Lloegr yn 170-4 gyda blaenoriaeth o 292 pan gwympodd y bedwaredd wiced.
Cyrhaeddodd Root ei hanner canred yn fuan ar ôl i Ben Stokes ddod i’r llain, a hynny oddi ar 66 o belenni, i ychwanegu at y 134 a sgoriodd yn y batiad cyntaf.
Ond fe gollodd ei wiced am 60, wedi’i fowlio gan Josh Hazlewood wrth i Loegr gyrraedd 207-5.
Collodd Lloegr eu tair wiced nesaf o fewn naw pelen wrth iddyn nhw gyrraedd 245-8.
Roedd Jos Buttler a Ben Stokes wedi ychwanegu 29 at y cyfanswm cyn i Buttler daro’r bêl i’r awyr i gyfeiriad y wicedwr Brad Haddin oddi ar fowlio Nathan Lyon, a Lloegr yn colli eu seithfed wiced gyda blaenoriaeth o 358.
Dilynodd Stokes yn dynn ar sodlau Buttler, wedi iddo gael ei fowlio gan Mitchell Starc am 42, a Lloegr yn 240-7.
Cipiodd Nathan Lyon wiced yn y belawd nesaf, wrth i Stuart Broad ergydio’n syth i’r awyr a chanfod dwylo Josh Hazlewood ar y ffin.
Cyrhaeddodd Lloegr 253-8 wrth i Moeen Ali daro dau bedwar ar ôl cael cwmni Mark Wood wrth y llain ar gyfer y nawfed wiced.
Roedd dylanwad Ali ar Wood yn amlwg o’r cychwyn wrth i Wood roi cynnig ar glatsio, a llwyddo i daro chwech dros ben y bowliwr cyn sgubo’n wrthol i ymestyn mantais Lloegr i 400 yn ystod partneriaeth o 43.
Ond yn fuan wedi iddyn nhw sicrhau’r flaenoriaeth honno, fe gipiodd Awstralia wiced Moeen Ali am 15, wrth i’r batiwr ddod i lawr y llain a tharo’r bêl oddi ar ymyl y bat yn syth i fenyg Haddin.
Jimmy Anderson oedd y dyn olaf i golli ei wiced, wedi’i fowlio gan Lyon.
Roedd Lloegr i gyd allan am 289, ac fe fydd gan Awstralia nod o 412 i ennill ar ddechrau’r pedwerydd diwrnod.