John Mooney
Dechreuodd ymgyrch Iwerddon i gyrraedd Cwpan Criced T20 y Byd gyda buddugoliaeth o saith wiced dros Namibia yn Stormont ddydd Gwener.

Bowlwyr Iwerddon, George Dockrell (2-15) a John Mooney (3-23) oedd yn bennaf gyfrifol am sicrhau’r pwyntiau i’r Gwyddelod wrth i Namibia gael eu cyfyngu’n effeithiol i 124-8 oddi ar eu hugain pelawd.

William Porterfield ddangosodd y ffordd i’r batwyr gyda 56, ac fe gafodd gefnogaeth gan Niall O’Brien (45) wrth i Iwerddon gyrraedd y nod oddi ar 17.2 o belawdau.

Bydd y chwe gwlad ar frig y gystadleuaeth yn cyrraedd y rowndiau terfynol i herio’r 10 gwlad sy’n cystadlu ar y lefel uchaf yn y byd criced rhyngwladol.