Cipiodd Lloegr bum wiced olaf Awstralia am 44 rhediad i sicrhau blaenoriaeth batiad cyntaf o 122 yn ystod sesiwn gyntaf trydydd diwrnod prawf cyntaf Cyfres y Lludw yn y Swalec yng Nghaerdydd y bore ma.

Roedd llai na deg munud o’r sesiwn gyntaf wedi mynd heibio cyn i’r trydydd dyfarnwr Chris Gaffaney gael ei alw i adolygu penderfyniad Marais Erasmus i roi Shane Watson allan am fod â’i goes o flaen y wiced yn erbyn Stuart Broad.

Ond cefnogi ei gyd-ddyfarnwr wnaeth Gaffaney ac roedd Watson ar ei ffordd i’r pafiliwn drachefn. Ei feirniadu wnaeth defnyddwyr y cyfryngau cymdeithasol am ei anallu i adeiladu cyfanswm uwch na’r 30au.

A gyda llaw, fe greodd Awstralia hanes wrth i fatwyr rhif tri i chwech i gyd golli eu wicedi yn y 30au – y tro cyntaf yn hanes gemau prawf i hynny ddigwydd.

Gwnaeth Mark Wood ganfod coes Nathan Lyon o flaen y wiced i gipio ail wiced y bore, wrth i Awstralia lithro i 265-7.

Er bod cyfradd sgorio Awstralia’n araf yn ystod pelawdau agoriadol y bore, fe gyflymodd ar ôl i Brad Haddin daro tair ergyd i’r ffin yn olynol oddi ar Ben Stokes wrth i Awstralia ruthro i 283-7.

Fe oroesodd Haddin waedd yn fuan wedyn am fod â’i goes o flaen y wiced ar ôl i Loegr adolygu’r penderfyniad gwreiddiol. Ond Jimmy Anderson lwyddodd i gipio’i wiced yn y pen draw wrth i’r wicedwr Jos Buttler ei ddal yn isel am 22, ac Awstralia’n 304-8.

Aeth 304-8 yn 306-9 o fewn pedair pelen wrth i Gary Ballance ddal Mitchell Johnson wrth faesu’n sgwâr ar yr ochr agored oddi ar fowlio Broad am 14.

Anderson wnaeth gau pen y mwdwl ar fatiad Awstralia gyda’r cyfanswm yn 308, wrth i Mitchell Starc gael ei ddal yn gampus ac yn isel gan Joe Root yn y slip.

Roedd gan Loegr flaenoriaeth o 122 pan ddechreuodd eu hail fatiad, felly, a 76 o belawdau’n weddill o’r trydydd diwrnod.

17 o rediadau’n unig lwyddodd y capten Alastair Cook ac Adam Lyth ychwanegu at y flaenoriaeth cyn i Cook yrru’n sgwâr oddi ar fowlio Mitchell Starc a chanfod dwylo diogel Nathan Lyon.

Roedd Lloegr yn 21-1 erbyn diwedd sesiwn y bore, a Lyth (7 heb fod allan) a Gary Ballance heb sgorio wrth y llain.