Dechreuodd yr Alban eu hymgyrch i gyrraedd Cwpan Criced T20 y Byd gyda buddugoliaeth o naw wiced yn erbyn yr Emiradau Arabaidd Unedig yng Nghaeredin.

Llwyddodd yr Emiradau i sgorio 109 yn unig oddi ar ugain pelawd, a dim ond hanner eu pelawdau oedd eu hangen ar yr Alban i gyrraedd y nod.

Seren yr Alban oedd George Munsey, a darodd 62 heb fod allan oddi ar 36 o belenni, ac fe gafodd gefnogaeth gan yr agorwr arall Kyle Coetzer (39).

Ar ddiwedd yr ornest, dywedodd capten yr Alban, Preston Mommsen fod y fuddugoliaeth yn sbardun i’w dîm ar gyfer gweddill yr ornest.

“Mae’n braf bob amser i ddechrau cystadleuaeth gyda buddugoliaeth.

“Fe ymosodon nhw yn y cyfnod clatsio, ond wnaethon ni ddal ein gafael arni.

“Byddai cwrso 150-160 wedi bod yn anodd.

“Mae cael buddugoliaeth gyntaf yn anferth.”