Doedd hi ddim yn hir cyn i ddrama’r Lludw afael yng Nghaerdydd ar ail fore’r prawf criced cyntaf yn y Swalec SSE.
14.1 o belawdau gymerodd hi i Awstralia gipio’r tair wiced oedd eu hangen i ddod â batiad Lloegr i ben.
Moeen Ali a Stuart Broad oedd wrth y llain pan ddechreuodd y gêm y bore ma, ac roedd hi’n amlwg eu bod nhw’n benderfynol o ymosod o’r cychwyn cyntaf.
Goroesodd Stuart Broad waedd am ddaliad gan y maeswr agos ar ochr y goes, Adam Voges gyda chyfanswm Lloegr yn 362-7. Pan aeth y dyfarnwyr at y trydydd dyfarnwr Chris Gaffaney, daeth hi’n amlwg fod Voges wedi casglu’r bêl oddi ar y llawr.
Ond buan y dychwelodd Broad i’r pafiliwn, a hynny oddi ar belen gynta’r troellwr Nathan Lyon. Gwnaeth Lyon ddarganfod ymyl bat Broad, a’r bêl yn glanio’n ddiogel ym menyg y wicedwr Brad Haddin.
Doedd y wiced ddim yn ddigon i aflonyddu Lloegr wrth i’r rhediadau barhau i lifo ac fe gyrhaeddon nhw 400 wrth i Mark Wood ymuno â Moeen Ali wrth y llain.
Ond daeth batiad hyderus a hollbwysig Moeen Ali i ben wrth i Shane Watson ddal ei afael ar y bêl oddi ar fowlio Mitchell Starc, ac Ali wedi sgorio 77 wrth i Loegr gyrraedd 419-9.
Goroesodd y batiwr newydd Jimmy Anderson waedd oddi ar ei belen gyntaf am ddaliad gan y wicedwr Haddin oddi ar fowlio Starc, ond penderfynodd y trydydd dyfarnwr nad oedd y bêl wedi cyffwrdd â’i law na’r bat.
Cafodd y trydydd dyfarnwr Gaffaney ei gadw’n brysur, wrth i Haddin apelio am stympiad yn erbyn Wood oddi ar y troellwr Nathan Lyon, ond yr un oedd ei ateb yr ail waith.
Un belen arall wynebodd Lloegr, wrth i Jimmy Anderson gael ei fowlio gan Starc i gau pen y mwdwl ar y batiad, a Lloegr yn gorffen ar 430.
Gorffennodd Starc gyda phum wiced – y trydydd tro iddo gyflawni’r gamp mewn gemau prawf.
Wrth i fatwyr agoriadol Awstralia, Chris Rogers a David Warner gyrraedd y llain, roedd hi’n amlwg fod Stuart Broad mewn hwyliau ymosodol, ac fe gafodd apêl am goes o flaen y wiced yn erbyn Rogers ei gwrthod gan y dyfarnwyr, a’i gwrthod eto gan y trydydd dyfarnwr.
Wrth geisio amrywio dull y bowlio, cafodd Broad, Anderson, Wood a Moeen Ali i gyd gyfle i arbrofi ar y llain cyn cinio, ond fawr o drafferth gafodd Rogers a Warner yn erbyn yr un ohonyn nhw wrth iddyn nhw gyrraedd 26-0 erbyn yr egwyl.