Er i Loegr barhau i ymosod yn y drydedd sesiwn, sesiwn ddigon cadarnhaol oedd hi i Awstralia wrth iddyn nhw gipio pedair wiced, gan gynnwys un allweddol Joe Root.

Ymestynodd Root a Gary Ballance eu partneriaeth y tu hwnt i 150 am y bedwaredd wiced yn fuan wedi’r egwyl.

Ond Josh Hazlewood lwyddodd ar ôl bron i dair awr i dorri’r bartneriaeth o 153, wrth ganfod coes Ballance o flaen y wiced ac yntau wedi sgorio 61.

Doedd hi ddim yn hir cyn i Root gyrraedd ei ganred oddi ar 118 o belenni ac roedd e wedi taro 14 pedwar erbyn i gyfanswm Lloegr gyrraedd 203-4.

Gyda’i bartner newydd, Ben Stokes, parhaodd Root i ddiflasu bowlwyr Awstralia, ac roedd y ddau fatiwr wedi adeiladu partneriaeth o hanner cant oddi ar 62 o belenni wrth iddyn nhw ruthro tua’r 250.

Daeth batiad godidog Root i ben ar 134, wedi’i ddal yn isel yn y slip gan Shane Watson oddi ar fowlio Mitchell Starc yn ystod pelawd ddi-sgôr.

Yn ystod y batiad, fe wynebodd 166 o belenni mewn batiad a barodd fwy na phedair awr, ac fe darodd 17 ergyd i’r ffin.

Roedd ei wiced yn allweddol wrth ddod â phartneriaeth Root a Stokes o 84 i ben, a’r cyfanswm ar y pryd yn 280-5.

Cyrhaeddodd Stokes ei hanner canred yn fuan wedyn a hynny oddi ar 76 o belenni mewn 96 munud, a’r batiad yn cynnwys chwe phedwar a dau chwech.

Ond cipiodd Mitchell Starc ei ail wiced mewn 14 o belenni i waredu batiwr llaw chwith Swydd Durham, a Lloegr yn 293-6.

Wrth i’r ddau fatiwr newydd, Mooen Ali a Jos Buttler ymgyfarwyddo â’r llain, fe gyrhaeddodd Lloegr 300 yn y 77fed pelawd.

Roedd Lloegr wedi cyrraedd 316-6 pan oroesodd Mooen Ali waedd am goes o flaen y wiced oddi ar fowlio Josh Hazlewood, wrth i’r trydydd dyfarnwr Chris Gaffaney benderfynu y byddai’r bêl wedi parhau i deithio dros ben y wiced.

Aeth Moeen Ali ymlaen i adeiladu partneriaeth o hanner cant gyda Buttler (27) oddi ar 57 o belenni cyn i Buttler ddarganfod dwylo Mitchell Johnson ar ochr y goes oddi ar fowlio Hazlewood.

Moeen Ali (26*) a Stuart Broad (0*) oedd wrth y llain wrth i Loegr gyrraedd 343-7 erbyn diwedd y dydd, ac roedd Josh Hazlewood wedi cipio tair wiced am 70 mewn 22 o belawdau.