Roedd Joe Root saith rediad i ffwrdd o’i ganred wrth i Loegr gyrraedd 190-3 erbyn amser te, yn dilyn sesiwn pan ddechreuon nhw daro nôl yn y Swalec SSE.
Goroesodd Root waedd gan y troellwr Nathan Lyon am goes o flaen y wiced tra roedd e’n 62 heb fod allan – a Lloegr yn 130-3, wrth i’r trydydd dyfarnwr Chris Gaffaney gytuno gyda’r ddau ddyfarnwr ar y cae fod y bêl wedi glanio y tu allan i wiced y goes.
Adeiladodd Root a Ballance bartneriaeth o 147 cyn diwedd yr ail sesiwn wrth i Loegr barhau i gryfhau eu gafael ar yr ornest.
Daeth ail gyfle i Awstralia gipio wiced Root pan oedd e’n 79 heb fod allan ond doedd Steve Smith, oedd yn maesu’n agos ar ochr y goes, yn methu dal ei afael ar y bêl ac roedd Lloegr yn benderfynol o barhau i gosbi Awstralia am fethu manteisio ar eu cyfleoedd.
Cyrhaedodd Ballance ei hanner canred wrth i’w bartneriaeth gyda Root ymestyn i 135, a hynny ar ôl i gapten Awstralia, Michael Clarke benderfynu rhoi’r bêl yn nwylo’r bowliwr lled-gyflym Shane Watson yn y gobaith o gipio wiced hanfodol.
Ond parhau mae’r pryderon i’r bowlwyr ar y diwrnod cyntaf.