Mae un o sêr Lloegr pan gipion nhw’r Lludw yn 2005, Geraint Jones wedi cyhoeddi ei fod yn ymddeol o griced ar ddiwedd y tymor.
Jones oedd y wicedwr ym mhob un o’r profion yn ystod y gyfres honno ddeng mlynedd yn ôl.
Daeth cadarnhad o’i ymddeoliad ar y diwrnod y dechreuodd prawf cyntaf Cyfres y Lludw yn y Swalec SSE yng Nghaerdydd.
Er iddo gael ei eni ar ynys Papua New Guinea a’i fagu yn Awstralia, mae rhieni Jones yn enedigol o Gymru, ac fe gynrychiolodd y wicedwr Glwb Criced Y Fenni cyn dechrau ar yrfa broffesiynol gyda Swydd Gaint.
Wrth gyhoeddi ei ymddeoliad, dywedodd Geraint Jones: “Mae’n rhywbeth dw i wedi bod yn meddwl amdano gryn dipyn ystod yr wythnosau diwethaf, ac fe ddes i i’r penderfyniad mai’r tymor hwn fydd fy nhymor olaf fel cricedwr.”