Ar drothwy’r prawf cyntaf yng Nghyfres y Lludw yng Nghaerdydd, mae capten Lloegr, Alastair Cook wedi bod yn rhannu ei safbwyntiau a’i ddisgwyliadau am y pum niwrnod i ddod yn y Swalec SSE.

Dychwelyd i Gaerdydd: “Mae’n braf iawn. Yn amlwg, mae yna atgofion o 2009 ar ôl i Jimmy [Anderson] a Monty [Panesar] ddal eu gafael arni ar ddiwedd y gêm. Yr hyn oedd gyda ni, yn enwedig ar y diwrnod olaf hwnnw, oedd cefnogaeth wych. Gwnaeth pobol Cymru gefnogi tîm Lloegr go iawn. Gyda bron bob ergyd amddiffynnol gan Monty, roedd y waedd yn uwch na phe bai Caerdydd neu Abertawe wedi sgorio gôl! Mae’n awyrgylch ffantastig i chwarae ynddo ac yn stadiwm braf hefyd.”

Blas ar Gymraeg yng ngŵyl Tafwyl: “Os gwelodd unrhyw un hynny, fe wnes i fwynhau Woody [bowliwr cyflym Lloegr, Mark Wood] yn cael blas arni. Dy’n ni ddim yn ei ddeall e’n siarad Saesneg, felly gyda’i acen Geordie yn trio siarad Cymraeg….!”

Yr amodau a’r llain: “Mae’r llain yn edrych yn dda iawn. Mae’r gwres wedi lleihau dros y 64 awr diwethaf. Pan oedden ni’n cynnal cyfarfod fel dewiswyr, roedd yn agos at 35 gradd ac roedd sôn y byddai’n para’n hirach nag y gwnaeth. Roedden ni am sicrhau ein bod ni wedi ystyried yr holl opsiynau.”

Yr hyfforddwr newydd, Trevor Bayliss: “Mae’n mynd yn dda iawn mor belled. Dy’n ni ddim wedi chwarae unrhyw griced o gwbl! Roedd Sbaen [sesiynau ymarfer] yn dda iawn a gwnaeth y bois fwynhau ei wythnosau cyntaf yn y swydd. Mae’n ymddangos yn foi ffein iawn, yn dawel iawn. Mae’n ymddangos bod ganddo fe dipyn o ddoethineb yn dawel fach.”

Adennill y Lludw: “Fel sy’n arferol y diwrnod cynt, mae tipyn o nerfau gan y ddau dîm. Y peth pwysicaf yw fod y bois yn methu aros, ar ôl yr holl baratoi, i gael dechrau arni a chwarae criced. Mae’n her anferth i ni chwarae yn erbyn y tîm gorau yn y byd ac o dan ein hamodau ni ein hunain. Fel chwaraewyr, ry’ch chi am brofi eich hun yn erbyn y goreuon. Dyna y’ch chi am ei wneud i gael gweld pa mor dda y’ch chi.”

Anghofio’r golled o 5-0 yn Awstralia: “Y peth pwysig i ni yw fod hynny yn y gorffennol. Allwch chi ddim cadw ymlaen i sôn am y peth. Os ewch chi nôl ryw bum mis cyn hynny, fe enillon ni’r Lludw o 3-0 yn ein hamodau ni’n hunain. Rhaid i chi fod yn ofalus iawn fel chwaraewyr nad ydych chi’n rhoi gormod o bwys ar y math yna o beth. Ry’n ni’n dechrau o’r dechrau. Mae gan y ddau dîm wynebau newydd. Dydy criced ddim yn cael ei chwarae ar bapur. Yr hyn sy’n digwydd fory sy’n bwysig. Dw i’n gyffrous iawn am yr her.”

Brwydr eiriol: “Y capten sy’n gyfrifol yn y pen draw. Mae’n gêm sy’n cael ei chwarae dan bwysau mawr. Mae gyda ni i gyd gyfrifoldeb, nid yn unig i’r bobol yn y stadiwm ond i bawb sy’n gwylio ar y teledu hefyd. Mae’n gyfrifoldeb sydd gan y ddau dîm i’r gêm. Mae pobol am weld criced cystadleuol iawn, y ddau dîm yn rhoi popeth er lles eu gwlad. Mae’n anrhydedd ac mae’n golygu cymaint i chi gael chwarae dros eich gwlad. Dw i’n credu fod yna linell yn y tywod yn rhywle allwch chi ddim ei chroesi, a gobeithio y gwnawn ni gadw at hynny.”

Tîm Lloegr: “Dw i’n credu bod y tîm wedi newid, ac mai esblygiad naturiol chwaraewyr sy’n gyfrifol am hynny. Mae ein ffordd o fynd o gwmpas pethau’n sicr wedi newid. Fel arweinydd, ry’ch chi’n newid eich ffordd o arwain yn dibynnu ar y chwaraewyr yn yr ystafell newid ar y pryd a’r hyn sy’n cael y gorau allan ohonyn nhw.”

Gwendidau’r batiwr Gary Ballance: “Mewn byd delfrydol, fe fyddai pob batiwr yn chwarae ar ei orau. Ond dyw pethau ddim wedi dod at ei gilydd i Gary yr haf yma. Ond mae ei record yn wych ac mae e’n chwaraewr da iawn. Mae ganddo fe’r ddawn i frwydro a’i gael ei drwy’r cyfan. Dw i’n hoff iawn o’i dechneg. Mae’n rhaid iddo fe gadw at ei ddull gan mai dyna sydd wedi’i arwain i gael cyfartaledd o 50 mewn profion a 1,000 o rediadau yn ei flwyddyn gyntaf.”

Datblygiad y troellwr coes Adil Rashid: “Mae Adil wedi datblygu’n sylweddol fel bowliwr ac fel cricedwr ers dechrau’r daith i India’r Gorllewin. Mae e wedi chwarae criced da mewn cyfres undydd anodd ac fe ddaeth i ben â’r amgylchfyd yn dda iawn. Mae e wedi gwella’n sylweddol. Dw i’n sicr y byddwn ni’n ei weld e rywbryd yn ystod y gyfres.”