Ddiwrnod yn unig cyn i Gyfres y Lludw ddechrau yng Nghaerdydd, mae capten Awstralia, Michael Clarke wedi bod yn rhannu ei safbwyntiau a’i ddisgwyliadau am y pum niwrnod i ddod yn y Swalec SSE.

Fe fu Golwg360 draw yn y gynhadledd i’r wasg y prynhawn yma i glywed yr hyn oedd ganddo i’w ddweud.

Caerdydd fel lleoliad ar gyfer gemau prawf: “Fe chwaraeon ni ein prawf diwethaf yma yn 2009 ac ro’n i’n meddwl ei fod yn ffantastig. Dw i’n credu ei fod e’n leoliad gwych. Dw i wrth fy modd yn cael dod i Gaerdydd. Dw i wedi bod yn ddigon ffodus i gael treulio ychydig o amser yma, boed yn chwarae gemau sirol neu i Awstralia. Dw i’n meddwl fod y rhan yma o’r wlad yn hardd iawn. Mae’r bois i gyd yn mwynhau eu hamser yma unwaith eto.”

Y llain: “Mae’n edrych yn eitha da i fod yn onest. Dw i’n credu bod y tirmon yn haeddu tipyn o ganmoliaeth am gyflwr y cae. Dw i’n gwybod fod y tywydd wedi bod yn rhagorol yn y DU, yn sicr ers i ni fod yma, felly mae hynny’n gwneud pethau ychydig yn haws. Dw i’n credu bod y cae i gyd yn edrych yn rhagorol. Ro’n i’n hoffi’r glaswellt ar y llain ddoe. Mae’n edrych fel pe bai wedi cael ei dorri ychydig heddiw. Fe wnawn ni aros i weld beth sy’n digwydd fory ond beth bynnag gawn ni, mae’n rhan o chwarae oddi cartref fod rhaid i chi ddod o hyd i ffordd o addasu. Dw i’n hyderus y gallwn ni wneud hynny.”

Dewis y tîm: “Does gyda ni ddim tîm terfynol ar hyn o bryd. Mae’r llain wedi newid ychydig ers ddoe eisoes, felly mae’r dewiswyr yn mynd i oedi am ddiwrnod arall i gael gweld sut olwg sydd ar bethau fory cyn dechrau’r gêm. Felly fe wnawn ni gyhoeddi’r unarddeg cyn y dafl. Mae tipyn o laswellt [ar y llain] felly dw i’n dyfalu mai dyna mae’r dewiswyr yn aros i’w weld.”

Ysbryd y garfan: “Mae gyda ni frand o griced fel bo ni’n chwarae ar ein gorau os ydyn ni’n chwarae yn y modd hwnnw. Cawson ni ein magu i chwarae criced caled, cystadleuol ar y cae. Dw i’n sicr yn deal ac yn parchu rheolau’r gêm ac ym mle mae’r llinell. Dw i wedi egluro mewn cyfresi blaenorol mai fi oedd wedi croesi’r llinell os gwnaeth unrhyw un o gwbl. Fel capten ar y tîm yma, mae angen i fi fod yn ddisgybledig a dw i’n gwybod y bydda i. Dw i’n credu ein bod ni’n parchu’n gilydd, dw i wastad wedi o’m safbwynt i, yn enwedig o ran Lloegr. Mae ganddyn nhw dipyn o brofiad a chwaraewyr gwych, ac mae’n nhw’n haeddu parch.

Brwydr eiriol: “I fi, does dim angen i chi ddweud gair er mwyn dangos eich bwriad a chwarae math da o griced. Os ydw i wedi anelu sylwadau at rywun neu os yw rhywun wedi anelu sylwadau ata i, dydy hynny ddim wedi helpu fy ngêm i’n bersonol. Hoffwn i weld unigolion yn chwarae ar eu gorau ac mae’n helpu rhai o’r chwaraewyr dw i wedi bod yn ffodus i gael chwarae gyda nhw yn ystod fy ngyrfa. Maen nhw’n gweld budd yn y peth. Maen nhw’n gwybod beth sydd angen iddyn nhw ei wneud i fod ar eu gorau a dyna sy’n bwysig i’r tîm er mwyn bod yn llwyddiannus.”

Awstralia ar eu newydd wedd: “Dw i’n credu bod y nod union yr un fath ag erioed. Ry’n ni am fod y gorau yn y byd. Ry’n ni am berfformio yn erbyn y gwrthwynebwyr gorau. Dw i wedi dweud o’r blaen mai ein her fwyaf yw bod yn llwyddiannus oddi cartref. Ry’n ni wedi dod i sylweddoli wrth chwarae yn Awstralia ein bod ni wedi bod yn llwyddiannus ac wedi chwarae criced da. Rhaid i ni wneud yr un peth oddi cartref os ydyn ni am gael ein galw’n dîm gorau’r byd. Dw i’n credu’n bod ni wedi gwneud hynny’n ddiweddar, ond ddim mor gyson ag yr hoffen ni. Ond dyna’r her yn Lloegr, am wn i, sef ceisio parhau i berfformio fel gwnaethon ni yn India’r Gorllewin ac ennill Cyfres y Lludw oddi cartref.”

Y chwaraewyr allweddol:

Nathan Lyon

“Dw i’n credu y bydd ganddo fe ran allweddol i’w chwarae yn y gyfres. Dw i’n credu bod ei berfformiadau i Awstralia drwy gydol ei yrfa wedi bod yn rhagorol. Dw i’n credu ei fod e wedi bowlio’n eitha da yn y gemau paratoadol ar y daith yn India’r Gorllewin ac yma. Dw i’n hyderus iawn ei fod e ar ei orau. Mae e fwy na thebyg mor hyderus ag erioed ac mae’n edrych ymlaen.”

Mitchell Johnson

“Mae e mor barod ag ydw i wedi’i weld e erioed, mae hynny’n sicr. Mae e’n bowlio’n gyflymach nag ydw i wedi’i wynebu yn y rhwydi. Y peth mwyaf anodd yw ei fod e’n gwyro’r bêl, felly does fawr o hwyl i’w gael yn y rhwydi. Pan fydd e’n gweld cyfres fawr neu gyfle mawr, mae e’n edrych ymlaen. Dyna bersonoliaeth Mitchell. Mae e’n ffit ac yn iach ac yn gyffro i gyd am yr hyn sydd o’i flaen e. Mae pobol yn amau pa mor dda mae’n gallu bowlio yn yr amodau hyn a dw i’n credu bod hynny wedi rhoi tân yn ei fol. Os gall e fowlio yn y ffordd mae e wedi bowlio ers i ni lanio yn y wlad hon, dw i’n credu y caiff e effaith sylweddol.”