Tony Martin o dîm Etixx – Quick-Step gipiodd y pedwerydd cymal o’r Tour de France yn Cambrai heddiw.
Roedd Martin yn ail yn y brif ras ar ddechrau’r dydd ac fe dorrodd yn glir o’r grŵp oedd yn arwain gyda rhyw 3km i fynd heddiw, gan agor digon o fwlch i olygu y bydd yn gwisgo crys melyn arweinydd y Tour fory.
Yr Almaenwr sydd hefyd yn nim Etixx – Quick-Step, John Degenkolb, oedd yn ail i groesi’r llinell heddiw, gyda Peter Sagan yn drydydd.
Er i’w harweinydd, Chris Froome golli’r crys melyn, roedd yn ddiwrnod digon boddhaol i dîm Sky wrth i Froome, dan ofal y Cymro Geraint Thomas, ddilyn Martin dros y llinell yn y grŵp dethol oedd wedi agor bwlch o dros dair munud dros y peloton.
Roedd Thomas yn amlwg iawn dros y cilometrau olaf heddiw yn arwain y grŵp ac yn rheoli cyflymder y ras yn gyson, gan ofalu am ei arweinydd Froome yn y broses.
Mae Tony Martin bellach yn arwain y ras o 12 eiliad gyda Froome yn ail cyn cymal 5 rhwng Arras Communaute Urbaine ac Amiens Metropole fory.