Mae tîm criced Prifysgol Leeds/Bradford wedi curo Prifysgol Caerdydd o 117 o rediadau yn rownd derfynol Cwpan Prifysgolion yr MCC yn Lord’s.

Seren yr ornest oedd Billy Root – brawd batiwr Lloegr, Joe – a darodd 135 i’r Saeson wedi iddyn nhw fatio’n gyntaf a chyrraedd 366-4 yn eu 50 pelawd.

Cafwyd cyfraniadau nodedig hefyd gan Steve Bullen (86) a Logan Weston (67 heb fod allan).

Ond wrth gwrso nod sylweddol o 367 am y fuddugoliaeth, roedd Caerdydd o dan bwysau o’r cychwyn cyntaf yn dilyn dwy belawd ddi-sgôr i agor y batiad.

Jake George oedd prif sgoriwr Caerdydd gyda 40, ond fe gollodd y Cymry wicedi’n llawer rhy aml i adeiladu unrhyw bartneriaeth o bwys, ac fe gawson nhw eu bowlio allan am 249 oddi ar 40.4 o belawdau.

Harry Rouse oedd bowliwr gorau Leeds/Bradford, wrth iddo gipio tair wiced am 36 yn erbyn tîm ei frawd, Tim.

Crynodeb: Prifysgol Leeds/Bradford 366-4 (Root 136, Bullen 86, Weston 67*); Prifysgol Caerdydd 249 i gyd allan (H Rouse 3-36)