A fydd James Chester yn un o'r chwaraewyr fydd yn symud clwb dros y misoedd nesaf?
A hithau’n haf ac yn ddiwedd ar y tymor pêl-droed, mae clybiau Cymru wedi bod yn brysur yn ceisio cryfhau eu carfan ar gyfer y flwyddyn i ddod.

Ac mae’n bosib y bydd cyfnod y ffenestr drosglwyddo yn golygu bod rhai o chwaraewyr Cymru yn symud clybiau dros y misoedd nesaf hefyd.

Pwy sydd wedi bod yn denu sylw clybiau mwy? Pwy allai adael eu clybiau presennol er mwyn chwarae’r fwy rheolaidd? A phwy fydd ag un llygad ar geisio gwneud argraff fawr y tymor hwn gyda lle – o bosib – yng ngharfan Cymru ar gyfer Ewro 2016 ar ddiwedd y tymor?

Hal Robson-Kanu – Dyw’r ymosodwr heb dderbyn cynnig i adnewyddu’i gytundeb gyda Reading eto. Mae ganddo flwyddyn ar ôl yn weddill gyda’r clwb, ond mae’n ysu i chwarae yn Uwch Gynghrair Lloegr unwaith eto.

Mae Reading yn barod i wrando am gynigion, ac mae clybiau megis Caerdydd, West Brom ac Aston Villa ymysg eraill wedi dangos diddordeb ei arwyddo. Fe allai Reading ei werthu am ryw £2.5m (Daily Mail)

Gareth Bale – Mae cyn-ymosodwr Manchester United, Dwight Yorke, wedi ymbil ar ei gyn-glwb i geisio arwyddo’r ymosodwr o Real Madrid, yn dilyn sïon drwy’r haf bod y clwb yn awyddus i ddenu’r Cymro i Fanceinion (Mail Online)

Wayne Hennessey – Mae rheolwr West Brom, Tony Pulis â diddordeb mewn prynu Wayne Hennessey o Crystal Palace er mwyn cryfhau’r garfan ymhellach, ac fe allai ei gael am lai na’r £3m a dalodd am y golwr pan oedd Pulis yn rheolwr ar Palace (Birmingham Mail)

Jazz Richards – Mae Fulham wedi dangos diddordeb yn yr amddiffynnwr ac mae’r chwaraewr ei hun wedi cyfaddef y gallai symud, gyda sôn bod y clwb o Lundain yn fodlon talu £500,000 i Abertawe.

Ond mae’n debyg bod dau glwb o’r Uwch Gynghrair hefyd yn cadw golwg ar Richards nawr, yn dilyn ei berfformiad rhagorol dros Gymru yn erbyn Gwlad Belg (South Wales Evening Post)

James Chester – Mae Caerlŷr, Newcastle, West Brom ac Aston Villa yn awyddus i arwyddo’r amddiffynnwr canol, ar ôl i Hull ddisgyn o’r Uwch Gynghrair eleni (Mail Online)

Ben Davies – Fe allai Crystal Palace geisio benthyg y cefnwr chwith o Tottenham Hotspur am dymor, gan fod cyn-amddiffynnwr Abertawe wedi’i chael hi’n anodd ennill lle yn nhîm cyntaf Spurs (London24)

Danny Gabbidon – Rheolwr Casnewydd Terry Butcher yn cyfaddef nad yw Casnewydd yn debygol o allu fforddio arwyddo Danny Gabbidon nac Alan Tate, ond Gabbidon ei hun heb ddiystyru’r posibiliad yn llwyr (South Wales Argus)

Danny Ward – Un sydd ddim yn debygol o symud, ar ôl i’r golwr arwyddo cytundeb tymor hir gyda Lerpwl, ond mae’n bosib y gallai fynd ar fenthyg i glwb arall rhywbryd tymor nesaf (liverpoolfc.com)