Ail yn erbyn trydydd fydd hi yn Guildford wrth i Forgannwg herio Swydd Surrey yn eu gornest Bencampwriaeth ddiweddaraf heddiw.

Mae Morgannwg yn parhau’n ddi-guro wedi dwy fuddugoliaeth o’r bron yn erbyn Swydd Essex a Swydd Northampton – a dydyn nhw ddim wedi ennill tair gornest Bencampwriaeth o’r bron ers 2010.

Dim ond Morgannwg a Swydd Surrey sy’n parhau’n ddi-guro yn yr ail adran, ac mae ganddyn nhw ddwy ornest wrth gefn dros Swydd Gaerhirfryn sydd ar frig yr adran.

Y tro diwethaf i Forgannwg chwarae yn Guildford oedd 1982, ond Swydd Surrey oedd yn fuddugol bryd hynny.

Daw David Lloyd i mewn yn lle Ruaidhri Smith, tra bod dau o chwaraewyr Swydd Surrey, Moises Henriques a Rory Burns allan yn dilyn eu damwain gas ddoe wrth faesu yn ystod gornest T20 yn erbyn Swydd Sussex.

Swydd Surrey: G Batty (capten), Z Ansari, D Sibley, V Solanki, B Foakes, A Harinath, G Wilson, Aneesh Kapil, T Curran, C Tremlett, S Meaker

Morgannwg: J Rudolph(capten), W Bragg, C Cooke, M Hogan, C Ingram, D Lloyd, C Meschede, A Salter, G Wagg, M Wallace, B Wright