Mae Morgannwg yn barod i groesawu dau wyneb cyfarwydd yn ôl i Gymru wrth i Wlad yr Haf deithio i’r Swalec SSE heddiw.
Roedd prif hyfforddwr Gwlad yr Haf, Matthew Maynard yn arwr i gefnogwyr Morgannwg fel chwaraewr, capten a phrif hyfforddwr am chwarter canrif, tra bo’r chwaraewr amryddawn Jim Allenby yn boblogaidd yn ystod ei chwe thymor ar y Swalec.
Ymhlith carfan Morgannwg mae cyn-chwaraewr Gwlad yr Haf, Colin Ingram, a Craig Meschede, sydd ar fenthyg am dymor.
Roedd siom ddechrau’r wythnos gyda’r newyddion na fyddai’r batiwr talentog o India’r Gorllewin, Chris Gayle yn chwarae heddiw wrth iddo ddychwelyd i’r Caribî i chwarae yn y CPL.
Daw Abdur Rehman i mewn i garfan yr ymwelwyr yn ei le.
Ar drothwy’r ornest, dywedodd Matthew Maynard: “Mae’n mynd i fod yn rhyfedd.
“Dw i ddim yn credu ’mod i wedi gwylio gêm yng Nghaerdydd ers i fi orffen fel hyfforddwr Morgannwg yn 2010.
“Yn amlwg, mae ’na nifer o gysylltiadau cryf.
“Ond dw i’n canolbwyntio’n llwyr ar Wlad yr Haf yn ennill. Dw i wedi prynu tŷ yno, sy’n dangos fy ymroddiad i fy swydd bresennol ac mae angen buddugoliaeth arnon ni gan fod Morgannwg yn fygythiad cryf yn y grŵp.
Mae Morgannwg wedi enwi’r un garfan ag a gafodd ei henwi ar gyfer eu dwy fuddugoliaeth ddiwethaf.
Carfan 13 dyn Morgannwg: J Rudolph (capten), C Cooke, D Cosker, M Hogan, C Ingram, D Lloyd, C Meschede, W Parnell, A Salter, R Smith, G Wagg, M Wallace, B Wright.
Carfan 13 dyn Gwlad yr Haf: M Trescothick, J Allenby, P Trego, J Hildreth, T Cooper, J Myburgh, L Gregory, Sohail Tanveer, T Groenewald, A Thomas (capten), Abdur Rehman, J Overton, M Waller