Mae bowliwr ifanc Morgannwg, David Lloyd yn holliach ar gyfer yr ornest yn erbyn Swydd Middlesex yn y Swalec SSE heno wedi anaf i linyn y gâr.

Daw Lloyd i mewn i’r garfan yn lle’r batiwr Will Bragg – yr unig newid i’r garfan gollodd yn erbyn Swydd Hampshire yng Nghaerdydd nos Wener diwethaf.

Dywedodd capten Morgannwg, Jacques Rudolph: “Yr allwedd i’r gystadleuaeth hon yw fod rhaid i chi ddarganfod eich dull a’ch rysait mor gyflym â phosib.

“Mae gyda ni ambell ddewis i’w ystyried ar gyfer y drefn fatio, ond unwaith rydyn ni wedi setlo, mae’n allweddol fod y chwaraewyr yn gwybod y byddan nhw’n cael cwpwl o gemau yn yr un safle.

“Mae hyn fel bod modd iddyn nhw ennyn hyder ac i gyflawni eu swyddogaethau gystal ag y gallan nhw.

“Gobeithio dros y gemau nesaf y gallwn ni adeiladu ychydig o fomentwm.”

Mae hwb i’r ymwelwyr gyda’r newyddion fod y bowliwr cyflym Kyle Abbott yn dychwelyd i’r tîm, ac maen nhw hefyd wedi cynnwys chwaraewyr Lloegr, Eoin Morgan a Steven Finn yn y garfan.

Bydd yr ornest hefyd yn gyfle i gefnogwyr Morgannwg weld cyn-fowlwyr cyflym y sir, James Harris a James Franklin yn dychwelyd i’r Swalec SSE.

Carfan 13 dyn Morgannwg: J Rudolph (capten), C Cooke, D Cosker, M Hogan, C Ingram, D Lloyd, C Meschede, W Parnell, A Salter, R Smith, G Wagg, M Wallace, B Wright.

Carfan 15 dyn Swydd Middlesex: E Morgan (capten), K Abbott, J Burns, N Compton, N Dexter, S Finn, J Franklin, N Gubbins, J Harris, D Malan, H Podmore, O Rayner, T Roland-Jones, J Simpson, N Sowter