Mae dau wyneb newydd yn nhîm rygbi dan 20 Cymru i wynebu’r Saeson nos yfory yng Nghwpan y Byd yn Yr Eidal.

Daw Jarrod Evans i safle’r maswr a Liam Belcher i safle’r bachwr yn dilyn y golled yn y gêm agoriadol yn erbyn Ffrainc 19-10.

Ac mae’r hyfforddwr Allan Lewis yn grediniol bod modd maeddu’r Saeson, o gofio bod y Cymry wedi eu curo eisoes eleni ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad.

“Mae’n amlwg ein bod wedi gwneud gormod o gamgymeriadau sylfaenol yn erbyn Ffrainc na fedrwch chi fforddio eu gwneud ar y lefel yma,” meddai Allan Lewis.

“Mae pac pwerus gan Loegr, rydym yn ymwybodol o’u cryfderau a’u gwendidau ac er maen nhw yw’r pencampwyr presennol ar y lefel yma, mae timau yn newid o hyd yn yr oedran yma ac fe wnaethon ni faeddu nhw yn y Chwe Gwlad felly rydym yn gwybod y gallwn ni ennill os fedran ni berfformio fel y gwnaethon ni ym Mae Colwyn.”


Tîm Cymru:

Dafydd Howells (Gweilch); Lloyd Lewis (Dreigiau), Garyn Smith (Gleision), Owen Watkin (Gweilch), Joshua Adams (Scarlets); Jarrod Evans (Gleision), Tomos Williams (Gleision); Luke Garrett (Dreigiau), Liam Belcher (Gleision), Dillon Lewis (Gleision), Adam Beard (Gweilch), Rory Thornton (Gweilch, capten), Tom Phillips (Scarlets), Ollie Griffiths (Dreigiau), Harrison Keddie (Dreigiau).