Chris Coleman
Ddylai Cymru ddim ofni chwarae Gwlad Belg er eu bod wedi codi i’r ail le yn rhestr gwledydd pêl-droed gorau’r byd.
Dyna neges rheolwr y tîm cenedlaethol gydag union wythnos tan un o’r gêmau pwysica’ yn hanes y wlad.
Fe roddodd Chris Coleman her i’w chwaraewyr godi eu gêm ar gyfer yr achlysur gan bwysleisio bod Gwlad Belg yn haeddu eu lle yn nhabl y gwledydd.
Fe bwysleisiodd fod y tîm presennol wedi gwneud pobol Cymru’n falch unwaith eto o’u tîm.
Tyngedfennol
Fe allai’r gêm ddydd Gwener nesa’ olygu a fydd Cymru’n llwyddo i gyrraedd rowndiau terfynol cystadleuaeth Ewro 2016.
Gwlad Belg yw’r ffefrynnau i ennill y grŵp ond mae Cymru’n ddiguro ar ôl un o’r dechreuadau gorau erioed i ymgyrch ryngwladol.
Mae’r ddwy wlad yn gyfartal ar frig y tabl ond fod Gwlad Belg ar y blaen oherwydd gwahaniaeth goliau.
Fe fyddai ennill yn golygu bod tynged Cymru yn eu dwylo eu hunain ac yn cryfhau eu gobaith o gyrraedd y rowndiau terfynol – fe fydd y ddau dîm ucha’n mynd trwodd a’r trydydd yn cymryd rhan mewn gêmau ail gyfle.